Ardal, cymuned a ward etholiadol ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, yw Tre-biwt, weithiau Tre Bute (Saesneg: Butetown). Mae'r sillafiad Cymraeg, ffonetig 'Biwt' yn mynd yn ôl i'r 19g.[1][2]
Tre-biwt yw ardal dociau Caerdydd, ac mae'n cynnwys Tiger Bay, fu'n destun y ffilm o'r un enw. Yn ne'r gymuned mae Bae Caerdydd. Erbyn hyn ceir llyn dŵr croyw mawr yma, a grewyd trwy godi morglawdd. Ceir Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn yr ardal yma.
Mae'n cynnwys cymunedau adnabyddus megis Sgwâr Loudoun a arferir bod yn ardal gyfoethog ond sydd wedi dioddef tlodi yn ystod yr 20g. Mae bellach wedi derbyn buddsoddiad gan gynnwys yn 2023 dechrau ar gwaith adeiladu Gorsaf reilffordd Tre-biwt.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Tre-biwt (pob oed) (10,125) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tre-biwt) (928) |
|
9.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tre-biwt) (5136) |
|
50.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tre-biwt) (1,249) |
|
23.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Pobl enwog o Dre-biwt
Cyfeiriadau