Teulu'r Mans
|
|
Genre
|
Comedi
|
Gwlad/gwladwriaeth
|
Cymru
|
Iaith/ieithoedd
|
Cymraeg
|
Nifer cyfresi
|
4
|
Cynhyrchiad
|
Cynhyrchydd
|
HTV Cymru
|
Amser rhedeg
|
25 munud
|
Darllediad
|
Sianel wreiddiol
|
S4C
|
Fformat llun
|
576i (4:3)
|
Darllediad gwreiddiol
|
1987 – 1993
|
Cyfres deledu comedi sefyllfa Cymraeg oedd Teulu'r Mans. Ysgrifennwyd y gyfres gan Wiliam Owen Roberts a John Pierce Jones. Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru. Darlledwyd cyfresi rhwng Rhagfyr 1987 a Gorffennaf 1992 gyda rhifyn arbennig yn 1993.
Roedd y gyfres wedi ei osod yn y 1960au a prif leoliad y rhaglenni oedd y Mans, Pen y Bryn, Y Llan, cartref y Parchedig J.S. Jones, ei deulu a'r amryw gymeriadau oedd yn ymweld a'r tŷ. Roedd y rhaglen yn ddadleuol yn ei ddydd oherwydd ei bortread o fywyd gweinidog a natur ddychanol y comedi gyda elfennau ffars.
Cyfres radio
Roedd cyfres ddrama radio Gymraeg o'r un enw a ddarlledwyd ar Home Service y BBC ar ddiwedd y 1950au.[1] Cast yn cynnwys A. L. Price, Cynddlyan Williams, Dilys Davies, D. L. Davies, Ennis Tinnusche, Evie Lloyd, Kate Jones, Lena Williams, Margaret John, T. H. Evans ac W. Emlyn James.[2]
Cymeriadau
Cyfeiriadau