Tatariaid y Volga

Hen ddarluniad o Datariaid y Volga (1862).

Grŵp ethnig Tyrcig sydd yn frodorol i'r rhanbarth rhwng Afon Volga a Mynyddoedd yr Wral yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd yw Tatariaid y Volga. Maent yn byw yn bennaf yn Tatarstan a Bashkortostan, dwy weriniaeth sydd yn rhan o Ffederasiwn Rwsia. Tatariaid y Volga ydy'r grŵp ethnig ail fwyaf yn y ffederasiwn, ar ôl y Rwsiaid. Mwslimiaid Swnni o'r traddodiad Hanafi ydynt, a nhw oedd y bobl gyntaf yn y byd Mwslimaidd i gyflwyno diwygiadau crefyddol ac addysgol, ac i ddadlau dros ryddid cenedlaethol i bobloedd dan dra-arglwyddiaeth drefedigaethol.[1] Tatareg, neu Datareg Kazan, yn y teulu ieithyddol Tyrcaidd, yw'r iaith genedlaethol. Gellir olrhain y Datareg llenyddol yn ôl i'r 14g, ac mae arysgrifau hynaf yr iaith yn dyddio o'r 11g. Defnyddiwyd yr wyddor Arabeg hyd at 1927, yr wyddor Ladin o 1927 i 1940, a'r wyddor Gyrilig ers 1940.

Mae union darddiad y bobl hon yn ansicr, ond yn gyffredinol mae ysgolheigion yn cytuno eu bod yn disgyn o'r Bolgariaid, pobl Dyrcig led-nomadaidd a gymysgai'n ddiweddarach â llwythau'r Llu Euraid, a'r Ffiniaid Dwyreiniol (grwpiau Wralaidd gan gynnwys y Permiaid a Ffiniaid y Volga). Mae sawl teip ethnig iddynt, gan gynnwys y Ffinnig (gwallt golau a llygaid glas), y Cawcasaidd, ac yn brin y Mongolig (yn debyg i'r Casachiaid).[1] Buont yn genedl sefydlog ers talwm, yn wahanol i'r bobloedd Dyrcig nomadaidd, ac weddi colli hen strwythur y llwyth a'r clan.

Hanes

Ymfudodd llwythau'r Bolgariaid i ardal ganol Afon Volga wedi canol y 7g, yn sgil buddugoliaeth y Chasariaid dros Undeb y Bolgariaid yn y stepdiroedd Pontig. Ar ddiwedd y 9g, ymddangosodd gwladwriaeth Fwlgar ffyniannus o ganlyniad i broses o uno'r llwythau a chrynhoi eu grym tiriogaethol a gwleidyddol. Bu ffydd y Mwslim ar led drwy ranbarth y Volga, a nodir 922, adeg taith Ibn Fadlan, cennad y Califf Jafar al-Muktadir i'r Deyrnas Fwlgar, fel blwyddyn y droedigaeth at Islam.[2]

Gorchfygwyd a difethwyd y Deyrnas Fwlgar ym 1236 gan y Mongolwyr, dan arweiniad Batu Khan, Gyrrwyd niferoedd mawr o'r bobl ar ffo, ond ymarferai'r wlad ymhen fawr o oes. Atgyfnerthwyd y cysylltiadau rhwng y Llu Euraid a Mwslimiaid y Volga Ganol yn sgil troedigaeth y Chan Berke (1256–66) at Islam, ac am gyfnod o gan mlynedd byddai'r Bolgariaid yn elwa ar heddwch a chyfoeth y Pax Mongolica, ac yn byw dan dra-arglwyddiaeth anuniongyrchol yr Ymerodraeth Fongolaidd.[3]

Yn niwedd y 14g, bu gwlad y Bolgariaid yn faes i'r frwydr rhwng Timur a Tokhtamysh dros olyniaeth y Llu Euraid, a fu ar ei drengi. Manteisiodd y tywysogaethau Rwsiaidd cyfagos ar yr helyntion drwy ddwyn cyrchoedd ar yr ardal, gan ddifetha'r holl diroedd ym 1395. Ymfudodd y Bolgariaid i'r gogledd ac ymsefydlasant ar lannau afonydd Kazanka a Kama. O'r diwedd, ym 1437, ffoes y Chan Ulugh Muhammad o'i brifddinas, Saray, ac esgynnodd ei fab Mahmud i orsedd Bulgar al-Jadid, neu Chanaeth Kazan, ym 1445.[3]

Byddai Kazan yn parhau i fasnachu â hen lwybrau'r Llu Euraid ac yn cynnal cysylltiadau gyda marchnadoedd ym Mysgofi, Chanaeth Siberia, y Cawcasws, Persia, a Chanolbarth Asia. Blodeuai bywyd diwylliannol y Bolgariaid, dan ddylanwad y traddodiad Islamaidd, a daeth iaith y Tatariaid i'r amlwg fel cangen ar wahân o'r ieithoedd Kipchak. Daeth Mysgofi i ddibynnu ar y fasnach â Kazan, ac o'r herwydd byddai'r Rwsiaid yn ymyrryd â gwleidyddiaeth y Tatariaid, gan gynnwys ceisio gwrthbwyso'r cynghrair rhwng Kazan a Chanaeth y Crimea. Cafwyd sawl cystadleuaeth dros olyniaeth y chanaeth, gan ansefydlogi'r wlad, ac o'r diwedd gorchfygwyd Kazan gan luoedd y Tsar Ifan IV ym 1552.[3]

Aeth y Rwsiaid ati i goloneiddio tiroedd y Tatar a chael gwared â'u cymdeithas. Câi cyfoeth yr uchelwyr ei andwyo a'u statws ei ddiraddio, a chymerai tiroedd y Tatariaid oddi arnynt. Câi nifer ohonynt eu halltudio o diriogaeth yr hen chanaeth. Ymhen hanner can mlynedd, poblogaeth gymysg o Datariaid a Rwsiaid oedd gan yr ardal,, ac erbyn diwedd y 18g byddai'r Tatariaid yn lleiafrif o fewn mamwlad eu hunain. Cychwynnwyd genadaethau dan deyrnasiad y Tsar Feodor, a throwyd nifer ohonynt yn Gristnogion Uniongred. Câi Mwslimiaid eu herlid mewn ymgyrchoedd gwrth-Islamaidd a fyddai ar eu hanterth yng nghanol y 18g. Allfudodd niferoedd mawrion o Datariaid, yn bennaf tua Thyrcestan, stepdiroedd y Casachiaid, a Siberia. Ymgynghreiriodd eraill â'r Bashkir i lansio gwrthryfeloedd ar y cyd yn erbyn y Rwsiaid, a bu ganddynt ran mewn terfysgoedd y Cosaciaid Stenka Razin (1667–71) ac Yemelyan Pugachev (1773–5).[3]

Tatariaid o Kazan (1870).

Daeth yr erledigaeth grefyddol i ben dan deyrnasiad Catrin II, pryd sefydlwyd y Bwrdd Ysbrydol Mwslimaidd Canolog yn Orenburg ym 1783. Dros y can mlynedd nesaf, byddai marsiandïwyr Tataraidd yn cydweithio'n ffyddlon â llywodraeth Rwsia, gan sefydlu gorsafoedd masnachu yng Nghanolbarth Asia ac yn Tsieina. Yn sgil concwest Canolbarth Asia gan Ymerodraeth Rwsia yn y 19g, nid oedd rhaid bellach i'r Rwsiaid ddibynnu ar gymorth y Tatariaid i gysylltu â'r gwledydd Mwslimaidd hynny, a daeth y bartneriaeth economaidd a'r goddefiad crefyddol i ben.[3] Dechreuodd y llywodraeth felly ar ymgyrch newydd i Gristioneiddio'r Tatar. I'w gwrthsefyll, canolbwyntiodd y dosbarth canol cefnog a'r goreuon diwylliedig ar uno'r gymdeithas Dataraidd dan y ffydd Islamaidd, er mwyn ennill safle economaidd a deallusol cystal â'r Rwsiaid Uniongred. At y diben hon, sefydlwyd mudiad diwygiadol o'r enw Jadidiaeth, ymdrech fodern unigryw yn y byd Mwslimaidd ar y pryd. Blodeuai bywyd diwylliannol a chymdeithasol y Tatar wrth i bob dosbarth cydweithio tuag at yr un nod, yn y mosg, yr ysgol, a'r farchnad, a dyrchafwyd safle'r fenyw yn y gymuned yn ogystal. Er gwaethaf y diwedd i rôl y masnachwyr Mwslimaidd yng Nghanolbarth Asia, tyfoedd economi'r Tatariaid wrth iddynt ymgymryd â'r drefn gyfalafol a datblygu diwydiannau eu hunain. Erbyn 1917, roedd y gyfradd lythrennedd ymhlith y Tatariaid yn uwch na'r Rwsiaid.[4]

Yn ystod Chwyldro Rwsia a'r rhyfel cartref, brwydrodd y Tatariaid dros achos y Bolsieficiaid, yn y gobaith o ennill ymreolaeth. Yn sgil sefydlu'r Undeb Sofietaidd, dyrchafwyd Mir Said Sultan Galiev i'r swydd uchaf a ddaliwyd gan Fwslim yng Nghomisariaeth Cenedligrwydd y Bobl, dan Joseff Stalin. Datblygodd Galiev athrawiaeth o "gomiwnyddiaeth genedlaethol" a fyddai'n dylanwadu ar wrthdrefedigaethwyr gan gynnwys Mao Tse-tung, Lin Piao, Nasser, a Ben Bella; ond cafodd ei gyhuddo o wyro oddi ar Farcsiaeth Leniniaeth drwy gofleidio cenedlaetholdeb, a'i ddienyddio. Sefydlwyd Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Awtonomaidd (GSSA) Bashkir ar 23 Mawrth 1919, a GSSA Tatar ar 27 Mai 1920. Lluniwyd ffiniau'r ddwy weriniaeth yn fympwyol, gan roi 75% o'r boblogaeth Dataraidd y tu allan i'r weriniaeth a fu'n dwyn eu henw, a'u gwneud yn fwyafrif yn GSSA Bashkir.[4]

Is-grwpiau

Tatariaid Mishar

Mae'n debyg i Datariaid Mishar disgyn yn fwy o'r Ffiniaid Dwyreiniol nac y mae Tatariaid y Volga yn gyffredinol. Gwerinwyr ydynt sydd yn byw yn neheudir Tatarstan, Chuvashia, a Mordovia, rhwng afonydd Oka a Volga. Maent o hyd yn dangos y teip Ffinnig o ran golwg, ac yn siarad tafodiaith o Datareg Kazan.[5]

Tatariaid Tepter

Mae Tatariaid Tepter yn disgyn o'r Tatariaid a ymfudodd i'r dwyrain o'r Volga yn sgil cwymp Chanaeth Kazan ym 1552, ac sydd wedi ymsefydlu yng ngwlad y Bashkir. Er iddynt cyd-fyw â'r Bashkir am bum can mlynedd ym mron, maent o hyd yn glynu at eu hunaniaeth Dataraidd, ac yn siarad cymysgiaith o Datareg Kazan ac iaith y Bashkir.[5]

Kryashen

Tatariaid y Volga wedi eu troi'n Gristnogion Uniongred ydy'r Kryashen, neu Datariaid Bedydd. Gwahaniaethir rhwng y Starokryashen (yr Hen Kryashen), a drodd at Gristnogaeth yn yr 16g, a'r Novokryashen (y Kryashen Newydd), a gafodd eu Cristioneiddio yn y 18g. Dychwelodd y mwyafrif o'r Novokryashen at Islam yn sgil rhyddfrydoli crefyddol yn Ymerodraeth Rwsia ym 1906. Siaredir tafodiaith Datareg, gydag ychydig iawn o fenthyceiriau Arabeg a Pherseg, gan y Kryashen, a chyn Chwyldro 1917 defnyddiwyd iaith ysgrifenedig Gyrilig ganddynt, yn wahanol i Datariaid eraill. Cawsant eu hystyried yn genedligrwydd ar wahân gan lywodraeth yr Undeb Sofietaidd, a chan y Tatariaid Mwslimiaid. Maent yn ymbriodi'n aml â'r Rwsiaid, ac yn cael eu cymhathu'n ddiwylliannol.[5]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Felipe Fernández-Armesto (gol.), The Peoples of Europe ail argraffiad (Llundain: Times Books, 1997), t. 357.
  2. Fernández-Armesto, The Peoples of Europe (1997), t. 358.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Fernández-Armesto, The Peoples of Europe (1997), t. 359.
  4. 4.0 4.1 Fernández-Armesto, The Peoples of Europe (1997), t. 360.
  5. 5.0 5.1 5.2 Fernández-Armesto, The Peoples of Europe (1997), t. 364.