Lleolir y ddinas ar lan Afon Wral yn y man lle llifa Afon Sakmara iddi, 1,478 cilometer (918 milltir) i'r de-ddwyrain o Moscfa, yn agos i'r ffin rhwng Rwsia a Casacstan.
Sefydlwyd y ddinas yn y 1740au wrth i Ymerodraeth Rwsia ehangu i'r de a'r dwyrain.
Ceir sawl sefydliad addysg uwch yno, yn cynnwys Prifysgol Wladol Orenburg, ynghyd â theatrau ac amgueddfeydd, e.e. Amgueddfa Celf Ranbarthol Orenburg.
Pobl o Orenburg
Mae pobl a aned yn Orenburg neu a dreuliodd gyfnod sylweddol o'u bywyd yno yn cynnwys