Allforiwyd defaid Roscommon i Ben Llŷn rhwng 1810-15 gan Dishley Leicester o'r Iwerddon a Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch o Gymru. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'u bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn".[1] Mae nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal â thir mynydd.[2]