Sue Essex |
---|
|
Ganwyd | 29 Awst 1945 Cromford |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd |
---|
Swydd | Y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Y Gweinidog dros Gludiant a Chynllunio, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
---|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
---|
Gwleidydd o Loegr yw Susan "Sue" Essex (ganed 29 Awst 1945), a chyn-aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bywgraffiad
Ganed Essex yn Cromford, Swydd Derby, a magwyd yn Tottenham, Llundain. Symudodd i Gymru yn 1971. Dechreuodd ei gyrfa wleidyddol fel Cynghorydd sir ar Gyngor Caerdydd, gan ddod y ddynes gyntaf i arwain y cyngor yn ddiweddarach.
Essex oedd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd o 1999 hyd 2007. Roedd hefyd yn weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu'n Weinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio o 2000 hyd 2003, a'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus o 2003 hyd 2007. Ni safodd i gael ei hail-ethol yn 2007.[1]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol