Canwr opera o Gymru yw Stuart Burrows (ganwyd 7 Chwefror 1933)
Mae'n un o brif gerddorion opera'r byd sydd yn recordio yn y Gymraeg ac ieithoedd eraill. Ganwyd Stuart yn William Street, yng Nghilfynydd, sef yr un stryd â'r seren arall y byd opera - y diweddar Syr Geraint Evans.