Stryd Portland, Aberystwyth

Stryd Portland
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Stryd Portland, Aberystwyth, o'r de (Mai 2018)

Un o brif strydoedd canol tref Aberystwyth yw Stryd Portland (Saesneg: Portland Street). Adnabwyd hi am yn y 19g fel "Lower Portland Street" a Stryd y Porth Bach (Eastgate Street) fel "Upper Portland Street".

Fe'i lleolir ar yr hen forfa a oedd tu allan i furiau canoloesol y dref. O'r herwydd fe elwir y capel ar y stryd yn Gapel y Morfa a daw'r stryd i'w therfyn ar Morfa Mawr (Queen's Street). Ni ddylid ei drysu gyda Ffordd Portland (Portland Road) sydd gyfochrog iddi i'r dwyrain, ac, yn rhyfedd, yn gulach nag hi.

Adeiladau'r stryd

Fel un o brif strydoedd Aberystwyth ceir sawl darpariaeth bwysig ar gyfer y dref a'i thrigolion ar y stryd hon. Mae'r tai yn 3 neu 4 llawr o uchder gyda ffenestri bae. Mae'r nifer o'r tai wedi ei llogi ar rent i fyfyrwyr neu fel fflatiau o fewn yr adeilad i unigolion neu deuluoedd.

Lleolir:

Ceir hefyd Amgueddfa Ceredigion sydd ar gyffordd y stryd gyda Ffordd y Môr ond gyda'r mynedfa ar Ffordd y Môr.

Ar waelod y stryd lleolir Llyfrgell Tref Aberystwyth yn adeilad hardd neo-glasurol yr hen Gyngor Tref Aberystwyth.

Wrth ymyl Meddygfa'r Llan ceir llwybr sy'n cysylltu Stryd Portland â Stryd y Baddon, Aberystwyth.

Gardd Gofio

Ar waelod y stryd, gyferbyn â'r llyfrgell, ceir gardd goffa lle planwyd sawl coeden i gofio a chydnabod digwyddiadau o bwys yn hanes Aberystwyth a'r byd.

Aberystwyth Joseph Parry

Credir i dôn enwog Joseph Parry gael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Eglwys Annibynnol Saesneg Stryd Portland i geiriau "Jesus, Lover of My Soul" gan Charles Wesley. Mae'r eglwys bellach yn Feddygfa a chefn yr adeilad yn eiddo i Gwmni Theatr Arad Goch sydd a'i mynedfa ar Stryd y Baddon (Bath St.). Roedd Parry yn organydd yn yr eglwys. Ceir plac llechen i gofnodi'r digwyddiad ar fur y Meddygfa'r Llan ar Stryd Portland.

Cyhoeddwyd emyn-dôn Aberystwyth yn 1876 a'i chyhoeddi gyntaf yn 1879 yn llyfr Edward Stephen, Ail Lyfr Tonau ac Emynau.[1][2]

Yn 1897 cyfansoddodd Enoch Sontonga emyn Nkosi Sikelel' iAfrika ("Duw Bendithio Affrica" yn Xhosa), gan ei roi i dôn Aberystwyth i gychwyn. Daeth y gân maes o law yn anthem rhyddid Affricanaidd a thôn anthem genedlaethol Tansania, Zambia a De Affrica.

Cyfeiriadau

  1. The Concise Oxford Dictionary of Music
  2. Let the People Sing: Hymn Tunes in Perspective, Paul Westermeyer, page 217

Dolenni allanol

Oriel