Amgueddfa Ceredigion

Amgueddfa Ceredigion
Mathamgueddfa leol, sefydliad, amgueddfa awdurdod lleol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadColiseum Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.416418°N 4.083858°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 2AQ Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Map

Amgueddfa leol yw Amgueddfa Ceredigion a leolir ar Ffordd y Môr (Terrace Road yn Saesneg) yng nghanol tref Aberystwyth.

Mynedfa ar Ffordd y Môr

Hanes a pherchnogaeth

Sefydlwyd yr amgueddfa yn 1972 gan Gymdeithas Hynafiaethol Ceredigion (Cardiganshire Antiquarian Society) a gyflwynodd hi i Gyngor Dosbarth Ceredigion a sefydlwyd yn 1974. Yn 1996 fe drosglwyddwyd y perchnogaeth i Gyngor Sir Ceredigion yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru.

Ariennir yr Amgueddfa yn bennaf gan Gyngor Sir Ceredigion er ceir grantiau ychwanegol o bryd i'w gilydd ar gyfer prosiectau penodol.

Cefnogir hi hefyd gan fudiad 'Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion'.

Adeilad

Amgueddfa Ceredigion gyda'r mynedfa newydd ar Ffordd y Môr
Rhan o arddangosfa'r Amgueddfa
Caffe'r Amgueddfa

Lleolir yr amgueddfa ar draws sawl hen adeilad gan gynnwys hen sinema Coliseum y dref. Yn 2017 symudwyd mynedfa'r Amgueddfa oddi ar gornel Ffordd y Môr â Stryd y Baddon, lle mae bar coctêl Y Bañera bellach, i ganol Ffordd y Môr.

Ceir siop a derbynfa a chanolfan dwristiaeth y dref ar y llawr ddaear ac o ddringo grisiau neu esgynydd ceir caffi ar y llawr cyntaf, a llawr cyntaf casgliad yr amgueddfa ac oriel achlysurol, a rhagor o gasgliadau ar yr ail-lawr.

Mae'r amgueddfa ar agor 10.00am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae ar gau ar ddydd Sul.

Casgliadau

Mae gan yr amgueddfa dros 60,000 o wrthrychau am hanes Ceredigion[1]. Mae'r rhan fwyaf o'r arteffactau yng nghasgliad yr amgueddfa wedi ei gwneud neu eu defnyddio yng Ngheredigion rhwng 1850 a 1950 (ond mae'n anodd dyddio rhai yn hollol gywir) ac mae'r rhan fwyaf o'r lluniau o bobl a mannau yng Ngheredigion.[2]

Ceir arddangosfeydd parhaol yn arddangos ac ymwneud â themâu: amaeth, diwydiant y môr, dodrefn Cymreig o'r 17g i'r 19g, deunydd cartref, dillad, trafnidiaeth a diwylliant.[3]

Ceir casgliad dda o waith tacsidermi gan y teulu Hutchings (1870s–1942) a darluniau gan Alfred Worthington (1835–1925).

Ceir hefyd arddangosfeydd gan artistiaid cyfoes lleol, Cymreig ac weithiau tramor.

Digwyddiadau

Plac i'r Arlunydd Alfred Worthington sydd ar ochr Stryd Portland, Aberystwyth o'r Amgueddfa

Cynhelir cyngherddau cerddorol o bob math yn yr amgueddfa gan gynnwys Lleuwen Steffan a grwpiau gwerin Cymreig, tramor a grwpiau canu cyfoes. Ceir hefyd gwersi ioga a digwyddiadau amrywiol ac achlysurol eraill.[4]

Trefnir hefyd weithgareddau i oedolion a phlant a gellir dilyn taith dywys hanesyddol o dref Aberystwyth gan John Weston.

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-18. Cyrchwyd 2018-05-20.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-03. Cyrchwyd 2018-05-20.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-03. Cyrchwyd 2018-05-20.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-05. Cyrchwyd 2018-05-20.