Roedd Siarlymaen (748[1] neu 742 neu 747 – 28 Ionawr814) yn frenin y Ffranciaid o 768 ymlaen ac yn ymerawdwr 25 Rhagfyr, 800 pan y coronwyd ef gan Bab Leo III yn Rhufain. Carolus Magnus oedd ei enw ef yn Lladin, a Charlemagne yn Ffrangeg. Ei deitl lawn o 800 ymlaen oedd: Karolus serenissimus augustus a Deo coronatus magnus pacificus imperator Romanum imperium gubernans qui et per misericordiam dei rex Francorum atque Langobardorum (Cyfieithiad rydd: Siarl rheolwr araul urddasol, coronwyd gan Dduw, rheolwr sydd yn rheoli'r Ymerodraeth Rufeinig ac yn creu hedd mawr, gyda chaniatâd Duw yn frenin y Francaid a'r Langobardaid). Ystyrir mai ef oedd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig cyntaf.[2]
Bywyd
Roedd Siarlymaen yn fab hynaf Pippin III, y brenin Carolingaidd cyntaf. Ar ôl i Pippin farw roedd Siarlymaen yn rheoli un rhan o'r deyrnas a'i frawd, Carloman, y llall. Wedi marwolaeth Carloman ym 771 daeth Siarlymaen yn rheolwr ar y deyrnas gyfan.
Oherwydd i Siarlymaen gytuno i'w dad Pippin y byddai'n rhoi tir i'r eglwys, roedd y berthynas rhwng Siarlymaen a'r Pab yn dda iawn. Daeth Irene yn ymerodres yr Ymerodraeth Fysantaidd yn 797, ond nid oedd yn cael ei chydnabod gan y Pab, nad oedd yn barod i dderbyn merch fel rheolwr. Coronodd Pab Leo III Siarlymaen i fod yn ymerawdwr tra y bu'n aros yn Rhufain ar ddydd Nadolig y flwyddyn 800. Siarlymaen oedd y rheolwr cyntaf yng ngorllewin Ewrop i ddefnyddio'r teitl yma ers cwymp Romulus Augustulus ym 476. Wrth gwrs, nid oedd yr yn croesawu'r ymerawdwr gorllewinol newydd.
Roedd 350 o siroedd, a reolid gan ieirll, yn Ymerodraeth Siarlymaen, ac roedd yr ieirll hynny'n gwasanethu fel barnwyr a gweinyddwyr. Bu hefyd i Siarlymaen gyflwyno'r system Missi Dominici ("Negesyddion Duw"). O dan y system hon roedd cynrychiolydd yr eglwys a chynrychiolydd yr Ymerawdwr yn rheoli'r siroedd ac yn rhoi adroddiad ar gyfer y sir i Siarlymaen bob blwyddyn.
Claddwyd Siarlymaen yn ei eglwys gadeiriol ei hun yn ninas Aachen pan fu farw ym 814. Daeth Louis y Duwiol, yr unig fab a goroesodd ef, yn frenin dros yr holl ymerodraeth, ond ar ôl hynny rhannwyd yr ymerodraeth rhwng meibion Louis, yn ôl y traddodiad Ffrancaidd. Roedd y tair teyrnas a ffurfiwyd o ganlyniad i hynny yn ragflaenyddion teyrnas Ffrainc a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig.