Yn ail fab i'r Brenin Iago VI o'r Alban a'i wraig Anne o Ddenmarc, cafodd Siarl ei eni ym Mhalas Dunfermline yn yr Alban ar 19 Tachwedd 1600. Ar farwolaeth Elizabeth I o Loegr yn mis Mawrth 1603, dyrchafwyd ei dad i orsedd Lloegr. Roedd Siarl yn blentyn eiddil, ac, ar y dechrau, fe'i gadawyd yn yr Alban yng ngofal nyrsys rhag ofn i'w iechyd waethygu ar y daith hir i Lundain.
Teyrnasiad cynnar
Esgynodd Siarl i orsedd Lloegr a'r Alban ar farwolaeth ei dad ar 27 Mawrth1625. Ar 13 Mehefin o'r un flwyddyn, priododd Henrietta Maria, yn absenoldeb y ddau gymar. Roedd ei senedd gyntaf, oedd wedi agor ym mis Mai, yn erbyn y briodas o'r cyntaf am mai pabyddes oedd hi, ac ofnid y byddai Siarl yn lleddfu mesurau yn erbyn pabyddion a thanseilio Protestaniaeth fel crefyddol swyddogol y deyrnas.
Brwydrau â'r Senedd
Roedd Siarl yn brwydo â'r Senedd yn ystod rhan helaeth o'i deyrnasiad.
Achos llys a'i ddienyddio
Cyhuddiwyd Siarl o uchel frad ac uchel droseddau eraill ar 2 Ionawr1649. Gwrthododd Siarl bledio gan fynnu nad oedd gan lys mo'r hawl i ddwyn achos yn erbyn brenin. Fe'i cafwyd yn euog, a llofnodwyd warant marwolaeth gan 59 o'r comisiynwyr, gan gynnwys John Jones, Maesygarnedd ar 29 Ionawr1649. Fe'i dienyddiwyd y diwrnod wedyn ar lain o dir o flaen y Banqueting House yn Llundain.