Ci arffed sy'n tarddu o Fecsico yw'r Shiwawa (lluosog: shiwawaod, shiwawas),[1] y Tsiwawa (lluosog: tsiwawas)[2] neu'r Siwawa (lluosog: siwawas).[3] Hwn yw'r brîd lleiaf o gi. Enwir y ci hwn ar ôl talaith Chihuahua. Credir iddo tarddu o'r Techichi, ci bach mud a gedwir gan y Tolteciaid ers y 9g.[4]
Mae ganddo daldra o 13 cm (5 modfedd) ac yn pwyso 0.5 i 3 kg (1 i 6 o bwysau). Mae ganddo ben crwn, clustiau mawr sy'n sefyll i fyny, llygaid mawr, a chorff bach. Gall ei flew fod yn loyw ac yn llyfn neu'n hir a meddal, ac mae ei liw yn amrywio.[4]