Sbaengi sy'n frodorol o Gymru yw'r Sbaengi hela Cymreig, sydd fel yr awgryma'r enw yn perthyn i deulu'r Sbaengwn (neu'r 'sbaniel'). Yr un tarddiad sydd i'r gair a'r Saesneg Spaniel, sef y wlad Sbaen, a'r hen enw oedd ysbaengwn neu adargi neu gi adar. Mae'n frid hynafol a ddatblygwyd i ddal adar ond a ddaeth ymhen hir a hwyr yn gi defnyddiol i'r helwr ac erbyn hyn yn gi anwes deniadol.
Mae'n hen frîd i leoli a chodi'r gêm (neu'r adar a heliwyd) a chario'n ôl aderyn a saethwyd. Amrywiad oedd y cocker Cymreig (Welsh cocker), ond heb ei gydnabod yn frîd ar wahân. Roedd setiwr Llanidloes (Llanidloes setter) â'i gôt wen gyrliog yn amrywiad lleol yn y 19g.
Un lliw sydd i'r brid ond ceir amrywiaeth bychan yn y marciau gwyn a choch. Maent yn gŵn triw a theyrngar i'r perchennog, er eu bod yn dioddef o broblemau gyda'r llygaid a'r clun, yn fwy na'r ci cyffredin. Ci gwaith ydyw wrth reddf, a fridiwyd ar gyfer hela. Maent yn llai cyffredin na Sbaengi Adara Seisnig - (Cocker Spaniel), ac mae'n hawdd cymysgu'r ddau o bell.
Hanes
Mae bron yn amhosibl dyddio cychwyn y brid hwn, ond ceir llawer o hen luniau o gŵn tebyg.[1] Sonia John Caius yn 1570 am sbanieli Cymru, o liw gwyn a marciau coch fel arfer arnynt.[2] Mae'n ddigon posib iddynt ddod o Ewrop, o'r grŵp Land Spaniels, gan gadw'n eith agos at y math gwreiddiol dros y canrifoedd.[3]
"...ryw ŵr ieuangc ... ar Glamp o Geffyl ... a llu o filgwn, Bytheiadcwn, Costowcwn, Ysbaengwn, Corgwn, a mân ddrewgwn eraill ar ei ôl."
Cyn yr 20g roedd gan rai mathau o Sbaengi Adara Seisnig hefyd arlliw o goch a gwyn ar eu blew.[4]
Ychydig o sylw a gafodd y Sbaengi Hela Cymreig cyn diwedd y 1890au, pan enillodd nifer ohonynt brif wobrau mewn sioeau cŵn. Daethant i lygad y cyhoedd am y tro cyntaf pan gawsant eu cydnabod gan y Clwb Cennel yn 1902 a bathwyd y gair Saesneg Welsh Springer Spaniel. Un o'r bobl a oedd yn bennaf gyfrifol am ddod a'r ci hwn i boblogrwydd oedd A. T. Williams o "Ynys-y-Gerwn"[5] yn y 19eg ganrif pan enillodd yn nhreialon y Clwb Sbaengwn Hela ('Sporting Spaniel Club) a gynhaliwyd ar ei dir yn 1900 a throeon o'r bron yn dilyn hynny - mewn gwahanol rannau o wledydd Prydain.[3] Ei becampwr o gi, 'Corryn', oedd y Sbaengi Hela Cymreig cyntaf i gael tynnu ei lun gyda chamera, hyd y gwyddys.[6]
Yn niwedd y 19eg ganrif cludwyd y Sbaengi Cymreig i America ble derbyniwyd ef yn llawen gan Glwb Cennel America yn 1906.[7]
Fodd bynnag, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf sylweddolwyd nad oedd yr un ci pedigri i'w gael drwy America benbaladr. Ailgychwynwyd cofrestru'r cŵn gan eu bridio i'r hyn a welir heddiw.[8] Sefydlwyd Clwb y Sbaengi Hela Cymreig yn 1923 a gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cŵn pedigri, ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd difawyd y cofnodion cofrestru pan disgynodd fom ar y swyddfa lle roeddent yn cael eu cadw.[6] Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, credwyd hefyd nad oedd yr un ci pedigri ar ôl yn Unol Daleithiau America, ac ailgyflwynwyd cŵn newydd i'r wlad.[7][9] Cyflwynwyd y ci am y tro cyntaf i Awstralia yn 1973.[10]
Heddiw
Yn 2000 roedd 424 o gŵn ar gofrestr y Clwb Cennel, 420 yn 2004. Yn Unol Daleithiau America roedd 599 yn 2004.[11][12][12]