- Erthygl am dref Clun yw hon. Gweler hefyd Clun (gwahaniaethu).
Tref fechan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Clun (o'r Gymraeg: Colunwy).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Mae'n gorwedd tua 5 milltir i'r gogledd o Dref-y-clawdd (yng Nghymru) ar lan Afon Clun.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,184.[2]
Ceir castell o gyfnod y Normaniaid yno sy'n dyst i'r cyfnod pan fu'n ganolfan i arglwyddiaeth Colunwy.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau