Tref fechan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig yw Craven Arms.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif ar yr A49 tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llwydlo.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,595.[2]
Enwir y dref, a elwid yn Newton cyn hynny, yn ar ôl gwestyr'r 'Craven Arms, ar groesffordd yr A49 a'r B4368, a enwir yn ei dro ar ôl yr argwlyddi Craven (perchongion Castell Stokesay gerllaw).
Ar ddiwedd ei yrfa glerigol, symudodd yr hynafiaethydd o Gymro Robert Williams i Craven Arms yn 1879 a bu farw yno yn 1881.
Cysylltiad llenyddol
Ysgrifennodd Bruce Chatwin On the Black Hill tra'r oedd yn aros yn Cwm Hall ar gyrion y dref.[3]
Ffilmiwyd rhannau o'r ffilm Atonement ger Stokesay.[4]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau