Plwyf sifil mawr ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Saddleworth. Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Oldham. Saif i'r dwyrain o dref Oldham a thua 11 milltir (18 km) o Fanceinion. Mae'n cynnwys sawl pentref a phentrefan yn ogystal â maestrefi Oldham ar ochr orllewinol y Pennines. Mae'r pentrefi yn cynnwys Castleshaw, Delph, Denshaw, Diggle, Dobcross, Friezland, Grasscroft, Greenfield, Heights, Scouthead, Springhead ac Uppermill.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 25,460.[1]
Cyn crëwyd Manceinion ym 1974 roedd Saddleworth yn rhan o Swydd Efrog ond roedd gan yr ardal gysylltiadau cryf â Rochdale yn Swydd Gaerhirfryn. Am ganrifoedd bu'r plwyf yn ganolfan cynhyrchu brethyn gwlân yn ôl cyfundref diwydiant aelwyd. Ar ôl y Chwyldro Diwydiannol, yn y 18g a'r 19g, daeth Saddleworth yn ganolfan ar gyfer nyddu a gwehyddu cotwm.
Cyfeiriadau