Rwsia Fawr

Rwsia Fawr
Map Americanaidd o 1894 yn dangos tiriogaethau Ymerodraeth Rwsia yn Nwyrain Ewrop, gan gynnwys rhanbarth "Rwsia Fawr" mewn melyn.
Mathardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth

Enw hanesyddol ar wlad "y wir Rwsia", hynny yw mamwlad frodorol y Rwsiaid ac hen diriogaeth Uchel Ddugiaeth Moscfa (Mysgofi), yw Rwsia Fawr. Câi'r enw ei gyferbynnu â Rwsia Fechan (hynny yw, Rwthenia neu Wcráin) a Rwsia Wen (Belarws). O 1654 i 1721, teitl swyddogol y tsar oedd "Sofran yr Holl Rws: y Fawr, y Fechan, a'r Wen". Yn hanesyddol, cyfeiriwyd at y Rwsiaid fel "Rwsiaid Mawr" a'u hiaith fel "Rwseg Mawr" i wahaniaethu oddi ar y bobloedd ac ieithoedd Slafonaidd dwyreiniol eraill.[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Nicholas V. Riasanovsky, Russian Identities: A Historical Survey (Rhydychen: Oxford University Press, 2005), t. 34.