Actor o Gymro oedd Robin Griffith (Medi 1946 – 18 Awst 2017)[1] a gafodd yrfa hir ar lwyfan, ffilm a theledu.[2]
Fe'i magwyd yn Llangoed ar Ynys Môn ond roedd wedi byw yn Llundain ers blynyddoedd. Bu farw yn 70 mlwydd oed.[3]
Gyrfa
Ymddangosodd ar nifer o raglenni plant yn y 1970au gan gynnwys Miri Mawr yn lleisio'r cymeriad 'Blodyn Tatws' a Siop Siafins (BBC Cymru) yn chwarae 'Y Barwn Coch'. Bu'n actio yn y rhaglen comedi Newydd Bob Nos ar S4C yn y 1980au (a'i fersiwn Saesneg Night Beat News).
Chwaraeodd Yncl Wil yn y ffilm Un Nos Ola Leuad. Yn y 2000au ymddangosodd yng nghyfresi teledu Mine All Mine a High Hopes, Torchwood ymysg eraill.
Yn 2012 perfformiodd ar lwyfan yn Sgint gan Bethan Marlow, a gyfarwyddwyd gan Arwel Gruffydd mewn cyd-cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru ac yn 2016 perfformiodd yn Chwalfa, addasiad Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Teledu a ffilm
Llwyfan
Cyfeiriadau
Dolenni allanol