Rob Brydon |
---|
|
Llais | Rob Brydon BBC Radio4 Front Row 18 Mar 2012 b01dhl11.flac |
---|
Ganwyd | Robert Brydon Jones 3 Mai 1965 Baglan |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, digrifwr, hunangofiannydd, sgriptiwr, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, actor llais, canwr, cyflwynydd radio |
---|
Gwobr/au | MBE |
---|
Gwefan | http://www.robbrydon.com |
---|
Mae Rob Brydon (ganwyd Robert Brydon Jones, 3 Mai 1965, Abertawe) yn actor, digrifwr a dynwaredwr o Gymru. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran fel Bryn West yn y ddrama gomedi Gavin and Stacey.
Cychwynodd weithio i Radio Wales pan oedd yn 20 oed a daeth yn gyflwynydd radio ar orsaf BBC Radio Wales a BBC Radio 5. Daeth ei lais yn adnabyddus iawn wrth iddo leisio nifer fawr o hysbysebion a chyhoeddi ar deledu a ffilm. Datblygodd ei broffil comedi pan ysgrifennodd a serennodd yn y gyfres Marion and Geoff (2000) a'r gyfres o ddeilliodd o'r gyfres hon The Keith Barret Show. Mae hefyd wedi cyflwyno y rhaglen gwis Rob Brydon's Annually Retentive.
Mae Brydon yn adnabyddus am ei gomedi tywyll rhyfedd ac anghysurus ac mae wedi gweithio gyda nifer o ddigrifwyr ac actorion gyda'r un math o hiwmor ag ef, gan gynnwys Steve Coogan sydd wedi cyfeirio at Brydon fel rhyw fath o arloeswr. Fel Coogan mae ganddo'r ddawn i ddynwared pobl enwog. Mae wedi dangos hyn mewn rhaglenni fel The Trip, lle mae ef a Coogan yn chwarae fersiwn ffuglennol o'u hunain, yn teithio o gwmpas yn adolygu bwytai.
Yn 2003, cafodd ei enwi fel un o 50 act doniolaf ym myd comedi Prydain gan bapur newydd The Observer.
Yn 2018 ymddangosodd fel gwestai arbennig yn y gyfres Trust yn chware ran Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon ym mhenod 9 White Car in a Snowstorm [1]
Cyfeiriadau