Ganwyd Richard yn Llanymynech, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn fab i grudd o'r enw William Roberts a oedd hefyd yn gyfrifol am dollborthNewbridge. Offeiriad lleol a'i addysgodd a chafodd waith ar un o gychod Camlas Ellsmere. Aeth yn ei flaen i weithio mewn chwarel galch lle cafodd ei hyfforddi gan Robert Bough, syrfewr a oedd yn gweithio i Thomas Telford i gynllunio a dylunio.
Llwyddiannau
Ei ddyfais bwysicaf, a gofrestrodd yn 1825, oedd y The self-acting (automatic)spinning mule.
Disgrifiwyd ef fel y peiriannydd pwysicaf o wledydd Prydain yn y 19g. Yn ôl ei fywgraffydd Richard Leslie Hills, ei brif gyfraniad oedd cyflwyno peiriannau manwl iawn; heb y rhain ni fyddai'n boisib i systemau otomatig a masgynhyrchu fod wedi digwydd a byddai'r hyn a elwir heddiw yn production engineering ddim yn bodoli.[1] Roedd, felly, allweddol i'r Chwyldro Diwydiannol ond oherwydd ei fethiant fel dyn busnes bu farw'n dlawd ym mreichiau ei ferch ac fe'i claddwyd ym mynwent Kensall Green yn Llundain yn 75 oed.