Byr a digon helbulus oedd ei oes, ar sawl ystyr. Ar ôl addysg ysgol elfennol aeth am gyfnod i weithio yn glerc yn swyddfa papur newydd Y Genedl yng Nghaernarfon. Gweithiodd yn y chwarel am sbel ar ôl hynny ac er nad oedd yn hapus yn y gwaith roedd yn brofiad a roddai gefndir a thestun rhai o'i straeon gorau. Treuliodd gyfnod yn Lloegr yn ceisio ennill bywoliaeth trwy sgwennu erthyglau ac yna dychwelodd i Gymru i weithio fel newyddiadurwr yn Aberystwyth a Llanelli. Bu'n gweithio mewn ffatri arfau ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bu farw yn ysbyty Tregaron yn 1919, pan nad oedd ond tua 44 mlwydd oed. Fel nifer o lenorion ac artistiaid eraill ni gafodd y clod a haeddai tan ar ôl ei farwolaeth.
Ei waith
Ymhlith cyfeillion Dic Tryfan oedd y nofelydd a newyddiaduruwr Edward Morgan Humphreys a T. Gwynn Jones. Yn ôl yr olaf yr oedd wedi sgwennu "rhai cannoedd" o storïau byrion, yn Gymraeg a Saesneg, ond dim ond canran cymharol bychan sydd i'w cael heddiw.[1]
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1915, roedd tair stori fer ganddo yn fuddugol, sef "Noswylio", "Y Colledig" ac "Yr Hogyn Drwg". Roedd yr awdur yn gweithio yn Llanelli ar y pryd. Cyhoeddwyd Straeon y Chwarel, detholiad o ddeuddeg o'i straeon, tua diwedd y 1920au, gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones. Ni welodd y casgliad helaethach o'i straeon olau dydd tan 1936 pan gyhoeddodd Hughes a'i Fab, Wrecsam, gyfrol sy'n cynnwys deunaw o storïau ynghyd â rhagymadrodd gwerthfawr iawn gan E. Morgan Humphreys.
Mae'r chwarel a'i chymdeithas yn gyd-destun y rhan fwyaf o'i straeon, gyda thlodi a marwolaeth annhymorol yn elfennau amlwg ynddynt. Mewn hyn o beth mae ei waith yn agos iawn i waith cynnar Kate Roberts, ond bod arddull Dic Tryfan yn llawer mwy cynnil. Roedd Kate Roberts yn nabod Dic Tryfan yn eitha da a chyflwynodd ei chyfrol O Gors y Bryniau iddo er coffadwriaeth. Er bod nifer o'r straeon gan Dic Tryfan yn ddigon trist ceir smaldod a hiwmor tawel ynddynt hefyd a thrwy'r cyfan mae urddas dyn yn wyneb bywyd caled yn sefyll allan.
Llyfryddiaeth
Straeon Dic Tryfan
Tair Stori Fer (Wrecsam, 1916)
Straeon y Chwarel (Caernarfon, d.d. = c. 1918 efallai)
Storïau Richard Hughes Williams, gyda rhagymadrodd gan E. Morgan Humphreys (Wrecsam, 1932)
Argraffiad newydd: Cyfres Clasuron Hughes: Storïau Richard Hughes Williams. 1994. ISBN 9780852841495
Llyfryddiaeth
T. Gwynn Jones, Cymeriadau (Wrecsam, 1933). Yn cynnwys ysgrif ar Dic Tryfan.
Kate Roberts, Dau Lenor o Ochr Moel Tryfan (1970). Darlith.
Cyfeiriadau
↑Jones, T Gwynn (1933). "Dic Tryfan" . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.