biolegydd esblygol, etholegydd, awdur gwyddonol, cyfathrebwr gwyddoniaeth, awdur ysgrifau, theoretical biologist, gwybodeg, cymdeithasegwr, sgriptiwr, biolegydd, academydd, llenor, swolegydd, actor, awdur, genetegydd, actor ffilm, actor teledu, sgriptiwr ffilm, video game actor, actor llais
Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Kistler, Michael Faraday Prize, Gwobr Cosmos Rhyngwladol, Gwobr Lewis Thomas, Gwobr Shakespeare, Medal of Representation of the President of the Italian Republic, Gwobr Nierenberg, Silver Medal of the Zoological Society of London, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Durham, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, doethor anrhydeddus Prifysgol Valencia, Cymrawd y Pwyllgor Ymchwiliad Sgeptig, Tinbergen Lecture, Emperor Has No Clothes Award, Heinemann Award
Daeth Dawkins yn amlwg gyda chyhoeddiad ei lyfr The Selfish Gene ym 1976, gwaith a boblogeiddiodd y safbwynt genyn-ganolog o esblygiad a chyflwynodd y term meme. Ym 1982, gwnaeth cyfraniad blaenllaw i fioleg esblygiadol gyda'r theori, a gyflwynwyd yn ei lyfr The Extended Phenotype, nad yw effeithiau ffenoteipol yn gyfyngedig i gorff organeb, ond gallent ymestyn yn bell i'r amgylchedd, yn cynnwys cyrff organebau eraill.
Yn ogystal â'i waith biolegol, adnabyddir Dawkins am ei farnau ar anffyddiaeth, esblygiad, creadaeth, dyluniad deallus, a chrefydd; beirniad amlwg o greadaeth a dyluniad deallus ydyw. Yn ei lyfr 1986 The Blind Watchmaker, dadleuodd yn erbyn cyfatebiaeth yr oriadurwr, dadl dros fodolaeth creawdwr goruwchnaturiol sy'n seiliedig ar gymhlethdod organebau byw, ac yn lle'r cysyniad hwn disgrifiodd brosesau esblygiadol yn gyfatebol i oriadurwr dall. Ers hynny mae Dawkins wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gwyddonol poblogaidd, ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio, gan amlaf yn trafod y pynciau a nodir uchod.
Mae Dawkins yn anffyddiwr,[3][4][5]rhydd-feddyliwr, dyneiddiwrseciwlar, sgeptig, rhesymolwr gwyddonol,[6] a chefnogwr i'r mudiad Brights.[7] Fe'i disgrifiwyd weithiau yn y cyfryngau fel "Rottweiler Darwin",[8] yn gyfatebol i'r biolegydd o Sais T. H. Huxley, a adnabyddir fel "Bulldog Darwin" am ei gefnogaeth i ddetholiad naturiol. Yn ei lyfr 2006 The God Delusion, dadleuodd Dawkins ei bod bron yn sicr nad yw creawdwr goruwchnaturiol yn bodoli ac felly mae ffydd grefyddol yn cyfrif fel rhithdyb.[9] Llyfr mwyaf poblogaidd Dawkins yw The God Delusion; mae'r fersiwn Saesneg wedi gwerthu dros 1.5 miliwn o gopïau ac wedi'i gyfieithu i 31 o ieithoedd eraill.[10]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: dyluniad deallus o'r Saesneg "intelligent design". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.