Disgrifiwyd hi yn 1947 yn Time "yn bendant, dyma awdur benywaidd gorau'r byd".[1][2]. Defnyddiai'r ffugenw "Rebecca West" o enw arwres y nofel Rosmersholm gan Henrik Ibsen.
Ganwyd Cicily Isabel Fairfield yn 1892 yn Llundain, y DU, a chafodd ei magu mewn cartref a oedd yn fwrlwm o thrafodaeth ysgogus deallusol, dadlau gwleidyddol, cwmni bywiog, llyfrau a cherddoriaeth.[8][9]
Roedd ei mam, Isabella, yn Albanes ac yn bianydd medrus ond ni ddilynodd yrfa gerddorol ar ôl ei phriodas â Charles Fairfield, cyn-filwr Eingl-Wyddelig a oedd wedi bod yn stretcher-bearer yng ngwarchae Richmond yn Rhyfel Cartref UDA. Dychwelyd i'r DU a dod yn newyddiadurwr llwyddiannus, ond aeth i drafferthion ariannol. Gadawodd ei deulu pan oedd Cicily yn wyth mlwydd oed. Ni ail-ymunodd â nhw erioed, a bu farw'n dlawd ac ar ei ben ei hun mewn tŷ preswyl yn Lerpwl yn 1906, pan oedd Cicily yn 14 oed.[10][11]
Symudodd gweddill y teulu i Gaeredin, yr Alban, addysgwyd Cicily yng Ngholeg Merched George Watson. Bu'n rhaid iddi adael yr ysgol yn 1907 o ganlyniad i'r diciâu (tuberculosis). Dewisodd beidio â dychwelyd ar ôl gwella o'r salwch, gan ddisgrifio ysgol Watson yn ddiweddarach fel “carchar”.[12]
Gyrfa
Hyfforddodd fel actores yn Llundain, lle cymerodd yr enw "Rebecca West". Gyda'i chwaer Lettie, cymerodd ran yn ymgyrch menywod dros etholfraint, hy yr hawl i ferched gael pleidleisio, yn enwedig mewn protestiadau stryd. Yn y cyfamser, gweithiai fel gohebydd i'r cylchgrawn wythnosol, ffeministaidd, Freewoman and the Clarion, a oedd yn llais i'r achos ffeministaidd yn Llundain.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.
[13][14]
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America .
↑Gordon N. Ray, H.G. Wells & Rebecca West (New Haven: Yale University Press, 1974), tt. 1–32.
↑Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.