Hessischer Verdienstorden, Winsor McCay Award, Gordon E. Sawyer Award, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Inkpot, Time Machine Award, The George Pal Memorial Award
Ganwyd Raymond Frederick Harryhausen yn Los Angeles, Califfornia, yn unig blentyn[2] i'r Americanwyr o dras Almaenig Frederick a Martha Harryhausen.[1] Roedd Frederick yn beiriannydd ac yn ddyfeisiwr.[2] Roedd gan y Ray ifanc ddiddordeb mewn deinosoriaid, ffantasi, ffilmiau, a chelfyddyd. Creodd fodelau clai o anifeiliaid cynhanesyddol ac epaod ac arbrofodd gyda chamera a fenthycodd gan wneud ffilmiau byrion yn y garej er nad oedd mecanwaith stop-ffrâm gan y camera. Cafodd Ray ei ysbrydoli yn ei arddegau pan welodd King Kong (1933), yr ail ffilm i ddefnyddio animeiddiad stop-symud ar ôl The Lost World (1925). Pan oedd Ray dal mewn ysgol uwchradd, cafodd apwyntiad i gyfarfod Willis O'Brien, yr animeiddiwr a weithiodd ar y ddwy ffilm honno. Dangosodd rhai o'i waith i O'Brien ac ar ei gyngor astudiodd Ray anatomeg a cherfluniaeth a mynychodd wersi nos mewn cynhyrchu ffilm.[1][2]
Gyrfa ffilm
"There’s a strange quality in stop-motion photography, like in King Kong, that adds to the fantasy. If you make things too real, sometimes you bring it down to the mundane."
Huriwyd Harryhausen gan O'Brien i animeiddio'r mwyafrif o'r ffilm Mighty Joe Young, a gynhyrchwyd gan Merian C. Cooper, cyfarwyddwr a chynhyrchydd King Kong.[2] Enillodd Mighty Joe YoungWobr yr Academi am effeithiau arbennig yn seremoni 1950.[5] Cafodd Harryhausen rhagor o lwyddiant ym 1952 gyda The Beast from 20,000 Fathoms sy'n seiliedig ar stori fer, "The Fog Horn", gan ei gyfaill Ray Bradbury. Yn sgil y ffilm hon enillodd Harryhausen enw am ddenu cynulleidfaoedd mawr gyda golygfeydd syfrdanol hyd yn oed os oedd arian yn brin.[2]
Y ffilm liw gyntaf iddo weithio arni oedd The 7th Voyage of Sinbad (1958). Yn y ffilm antur fytholegol hon, creodd amgylchfyd ac effeithiau y dychwelodd atynt yn Jason and the Argonauts a dwy ffilm arall am Sinbad.[2] Treuliodd Harryhausen tri mis yn ffilmio'r olygfa enwog o saith sgerbwd sy'n dod yn fyw yn Jason and the Argonauts.[4]
Aeth Harryhausen i Brydain i fanteisio ar y system o travelling mattes a ddatblygwyd gan y Rank Organization, er mwyn iddo gyfuno ffilm o actorion anferth ac actorion bychain yn yr un olygfeydd ar gyfer The Three Worlds of Gulliver (1959), ac yn fuan penderfynodd i fyw a gweithio ym Mhrydain. Creodd rhagor o greaduriaid cynhanesyddol yn Mysterious Island ac One Million Years B.C. Ym 1969 cynhyrchodd Harryhausen The Valley of Gwangi, ffilm am ddeinosoriaid yn y Gorllewin Gwyllt. Datblygodd O'Brien y stori hon yn y 1940au a llwyddodd Harryhausen i'w dod i'r sgrin er gwaethaf marwolaeth O'Brien ym 1962. Gweithiodd hefyd ar y ffilm ofod First Men in the Moon (1964).[2]
Creodd ragor o ffilmiau Dynamation yn y 1970au, ond roedd effeithiau arbennig optegol a digidol megis yn y ffilmiau Star Wars yn dominyddu'r farchnad. Yr epig Clash of the Titans oedd y llun mawr olaf iddo weithio arni. Roedd yn serennu Laurence Olivier a Maggie Smith a chafodd ei gwneud ar gyllideb fawr, ond methodd y dilyniant arfaethedig Force of the Trojans i ennill cefnogaeth gan stiwdio. Ei ffilm olaf oedd The Story of The Tortoise & the Hare, ffilm fer oedd yn hanner-orffenedig o ddechrau'i yrfa yn y 1950au. Cyflawnodd y ffilm hon gyda dau animeiddiwr ifanc yn 2002, gan ddefnyddio nifer o fodelau gwreiddiol oedd yng nghadw ers hanner canrif.[2]
Derbynodd Ray Harryhausen anrhydedd arbennig gan yr Academy of Motion Picture Arts and Sciences ym 1992 am ei "gyfraniadau technolegol sydd wedi dod â bri i'r diwydiant".[3] Cyflwynwyd y seremoni gan Tom Hanks, a ddatganodd taw Jason and the Argonauts yw'r ffilm orau erioed.[2] Cyflwynwyd y wobr i Harryhausen gan ei gyfaill Ray Bradbury.[3]