Mae Rājasthān (Devanāgarī: राजस्थान) yn dalaith yng ngorllewin India. Hi yw'r fwyaf o daleithiau India o ran arwynebedd, 342,239 km² (132,139 mi²) ond mae'n cynnwys Anialwch Thar. Mae'n ffinio â Mhacistan yn y gorllewin, Gujarat yn y de-orllewin, Madhya Pradesh yn y de-ddwyrain, Uttar Pradesh a Haryana yn y gogledd-ddwyrain a Punjab yn y gogledd. Roedd y boblogaeth yn 56.47 miliwn yn 2001.
Ffurfiwyd Rajasthan ar 30ain Mawrth 1949, pan unwyd y gwladwriaethau tywysogaethol yn India; mae'n cyfateb yn fras i'r hen Rajputana. O ran crefydd, mae 88.8% o drigolion Rajasthan yn ddilynwyr Hindwaeth, 8.5% yn dilyn Islam, 1.4% yn Sikhiaid a 1.2% yn ddilynwyr Jainiaeth. Mae'r mwyafrif yn siarad yr iaith Rajasthani fel iaith gyntaf.