Rachel Reeves |
---|
|
Ganwyd | 13 Chwefror 1979 Lewisham |
---|
Man preswyl | Lewisham |
---|
Dinasyddiaeth | Lloegr |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau, Shadow Chief Secretary to the Treasury, Shadow Chancellor of the Duchy of Lancaster, Shadow Minister for the Cabinet Office, Canghellor y Trysorlys yr Wrthblaid, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig, Canghellor y Trysorlys |
---|
Cyflogwr | |
---|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
---|
Priod | Nicholas Joicey |
---|
Gwefan | https://www.rachelreevesmp.co.uk/ |
---|
Gwleidydd o Loegr yw Rachel Jane Reeves (ganwyd 13 Chwefror 1979). Hi yw Canghellor y Trysorlys ers Gorffennaf 2024 a'r fenyw cyntaf erioed i wneud y swydd.[1] Bu'n Canghellor Cysgodol y Trysorlys rhwng 9 Mai 2021 a Gorffennaf 2024. Mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol Llafur dros Leeds West ers etholiad gyffredinol 2010.
Bywgraffiad
Cafodd Rachel Reeves ei geni yn Lewisham, Llundain. Mae hi'n chwaer i Ellie Reeves, AS Llafur Lewisham West a Penge, sy'n briod â John Cryer, AS Llafur Leyton a Wanstead.[2][3]
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Parc Cator, yng Ngholeg Newydd, Rhydychen ac yn Ysgol Economeg Llundain, cyn gweithio fel economegydd ym Manc Lloegr, ac wedyn yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington, DC. Cafodd ei hethol yn etholiad cyffredinol 2010, a gwasanaethodd yng Nghabinet Cysgodol Ed Miliband fel Prif Ysgrifennydd Cysgodol y Trysorlys rhwng 2011 a 2013 ac fel Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau rhwng 2013 a 2015.
Priododd Reeves â Nicholas Joicey yn 2011. Gwas sifil a chyn ysgrifennydd preifat ac ysgrifennwr lleferydd Gordon Brown[4] yw Joicey. Mae gan y cwpl ddau o blant a chartrefi yn Bramley yn Leeds ac yn Llundain.[5][6] Cyhoeddodd Reeves ei beichiogrwydd cyntaf ar 20 Medi 2012, gan roi genedigaeth i ferch yn ddiweddarach.[7] [8] Ganwyd mab iddi yn 2015.[6]
Cyfeiriadau