Rachel Barrett |
---|
|
Ganwyd | 12 Tachwedd 1874 Caerfyrddin |
---|
Bu farw | 26 Awst 1953 Faygate |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, golygydd papur newydd, athro, swffragét |
---|
Partner | I. A. R. Wylie |
---|
Roedd Rachel Barrett (12 Tachwedd 1875 - 26 Awst 1953) yn swffragét a golygydd papur newydd o Gaerfyrddin. Ar ôl mynychu Prifysgol Aberystwyth daeth yn athrawes gwyddoniaeth. Yn 1906, rhododd y gorau ar hyn ar ôl clywed Nellie Martell yn siarad am y bleidlais i ferched. Daeth yn aelod o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu WSPU) a symudodd i Lundain. Ym 1907 daeth yn drefnydd i'r WSPU ac ar ôl Christabel Pankhurst ffoi i Paris, gofynnwyd i Barrett fod yn gyd-drefnydd yr ymgyrch WSPU. Yn 1912, er nad oedd ganddi gefndir newyddiadurol, cafodd ofalu am y papur newydd The Suffragette oedd newydd ei ffurfio. Cafodd Barrett ei arestio ar fwy nag un achlysur ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r mudiad pleidleisio a rhwng 1913 a 1914, treuliodd amser yn anhysbys gan osgoi ail-arestio.
Roedd mewn perthynas a'r awdur Awstraliaidd I. A. R Wylie; cefnogodd y ddau ohonyn nhw Radclyffe Hall yn ystod treial anlladredig llyfr Hall, The Well of Loneliness.
Cefndir
Ganwyd Barrett yng Nghaerfyrddin ym 1874 i Rees Barrett, syrfëwr tir a ffyrdd, a'i ail wraig Anne Jones, y ddau yn siaradwyr Cymraeg. [2] Fe'i magwyd yn nhref Llandeilo gyda'i brawd hynaf Rees a chwaer iau, Janette.[3] Erbyn Cyfrifiad 1881, ei mam Anne oedd yr oedolyn sengl yn byw yn eu cyfeiriad ar Alan Road; bu farw ei thad ym 1878. Addysgwyd Barrett mewn ysgol breswyl yn Stroud, ynghyd â'i chwaer, a enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth. Graddiodd yn 1904 gyda gradd BSc yn Llundain a daeth yn athro gwyddoniaeth. Addysgodd yn ysgolion Llangefni, Caerfyrddin a Phenarth.
Cyfeiriadau