Bardd Cymraeg oedd Robert Owen Williams (1937 – 20 Medi 2021)[1][2] neu R.O. Williams.
Bywgraffiad
Cafodd ei eni ym 1937, a chafodd ei fagu yn ardal Eifionydd.[2] Bu'n gweithio fel athro yn Lerpwl, ac yna yn Ysgol y Berwyn yn y Bala.[2] Fe ddysgodd gynganeddu gan Alan Llwyd.[2] Bu farw fis Medi 2021 yn 84 mlwydd oed[2].
Barddoniaeth
R.O. Williams oedd prifardd y gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dinefwr 1996, ble'r enillodd gyda'i awdl Grisiau.[3] Anne Frank oedd testun ei awdl, a hynny ar hanner canmlwyddiant ei marwolaeth[4]. Roedd y gadair a enillodd yn un anarferol ar sawl ystyr - defnyddiodd y saer, y Parchedig T. Alwyn Williams, dderw o olion hen bont yn Llandeilo, ac fe fu farw T. Alwyn Williams yn fuan wedi cwblhau'r gadair, cyn yr Eisteddfod.[5]
Enillodd R.O. Williams gadair Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr ar un achlysur hefyd[6].
Cyfeiriadau