Qin Shi Huang (秦始皇, Qín Shǐhuáng, 259 CC – 10 Medi210 CC oedd ymerawdwr cyntaf Tsieina a sylfaenydd Brenhinllin Qin. Adnabyddir ef fel yr Ymerawdwr Cyntaf (始皇帝, Shǐ Huáng Dì).
Ganed ef yn Handan, yng ngwladwriaeth Zhao. Daeth yn frenin gwladwriaeth Qin o 246 CC i 221 CC, ac yn ymerawdwr Tsieina unedig o 221 CC hyd ei farwolaeth.
Wedi iddo uno Tsieina, dechreuodd ef a'i brif gynghorydd, Li Si, ar gyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol. Ef a adeiladodd y fersiwn gyntaf o Fur Mawr Tsieina, ac mae ei fawsolewm ger Xi'an sy'n cael ei gwarchod gan y Fyddin Derracotta yn fyd-enwog. Adeiladodd rwydwaith o ffyrdd trwy'r wlad. Fodd bynnag, mae'n ffigwr dadleuol, oherwydd gwnaed hyn ar gost o filoedd o fywydau. Gwnaeth athroniaeth Conffiwsiaeth yn anghyfreithlon, a llosgodd lyfrau a chladdu ysgolheigion yn fyw.