Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, ydy Portishead.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Gogledd Gwlad yr Haf. Saif ar arfordir Aber Hafren.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 23,699 (17,344 yn 2001).[2]
Porthladd i gychod pysgota ydy Portishead, fel yr awgryma'r enw. Tyfodd yn sydyn o gwmpas y porthladd yn y 19g cynnar; yn y 20g sefydlwyd gwaith cemegol a phwerdy ond ers hynny mae'r dociau a'r diwydiannau mawr i gyd wedi cau. Bellach y diwydiant ymwelwyr sy'n ffynu a cheir marina a llawer o dai gwyliau yno bellach.
Arferai fod yn lle allweddol o ran rhwydwaith radio British Telecom (BT) - yn enwedig ar gyfer galwadau i longau drwy ei wasanaeth Portishead Radio.
Enwogion
Cyfeiriadau