Marina

Marina
Mathporthladd, maes parcio, water sports venue Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Marina yn Sbaen

Porthladd wedi'i greu yn bwrpasol o fewn harbwr cysgodedig lle cedwir cychod pleser ac y cynnigir ystod o wasanaethau ar gyfer eu perchnogion yw marina.

Mae adeiladu marinas mewn pentrefi bach arfordirol yn bwnc llosg yng Nghymru. Yn aml mae caniatâd cynllunio yn cynnwys tai drud sy'n tueddu i gael eu prynu gan mewnfudwyr i'r ardal ac felly, yn ôl y gwrthwynebwyr ac ymgyrchwyr iaith, yn debyg o gael effaith andwyol ar y gymuned a'r iaith Gymraeg. Mae'r ffrae ynglŷn â'r cynlluniau ar gyfer y marina ym Mhorthmadog, Gwynedd, yn ddiweddar yn enghraifft dda o'r gwrthdaro hyn.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am y môr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.