Roedd Polybius Πολύβιος, tua 203 - 120 CC), yn hanesydd Groegaidd sy'n enwog am ei lyfr Yr Hanesion neu Tŵf yr Ymerodraeth Rufeinig, sy'n delio â'r cyfnod 220 - 146 CC.
Ganed Polybius yn Megalopolis yn Achaea. Roedd ei dad yn amlwg mewn gwleidyddiaeth ac yn un o brif gefnogwyr y polisi o niwtraliaeth yn ystod y rhyfel rhwng y Rhufeiniaid a Perseus, brenin Macedonia. Oherwydd hyn roedd y Rhufeiniaid yn amheus ohono, ac roedd ei fab Polybius yn un o'r mil o wystlon a Achaea a gymerwyd i Rufain yn 168 CC, Bu Polybius yno am 17 mlynedd. Yn Rhufain daeth yn gyfaill i nifer o Rufeiniaid amlwg, yn enwedig Aemilius Paulus, gorchfygwr Macedonia. Gwnaeth Paulus ef yn gyfrifol am addysg ei feibion, Fabius a Scipio Aemilianus, a ddaeth yn gadfridog enwog. Rhyddhawyd y gwystlon yn 150 CC a dychwelodd Polybius adref, ond y flwyddyn wedyn aeth gyda Scipio i Affrica, ac roedd yn bresennol pan gipwyd dinas Carthago a'i dinistrio yn 146 CC.
Ni wyddir llawer am ei fywyd yn ddiweddarch; credir iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i amser yn Rhufain yn gweithio ar ei hanes, ond teithiodd i nifer o wledydd o gwmpas Môr y Canoldir hefyd. Efallai iddo ddychwelyd i Wlad Groeg tua diwedd ei oes, Yn ôl un ffynhonnell, bu farw wedi iddo syrthio oddi ar geffyl yn 118 CC.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn cynnwys bywgraffiad o'r gwleidydd Groegaidd Philopoemen, a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell gan Plutarch. Ysgrifennodd gyfrol ar dacteg filwrol hefyd. Collwyd y rhain, ond mae'r rhan fwyaf o'r Hanesion wedo ei gadw.