Cymuned yn ninas Casnewydd yw Pilgwenlli (Seisnigiad: Pillgwenlly).[1] Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,333.
Saif i'r de o ganol y ddinas, lle mae Camlas Sir Fynwy yn ymuno ag afon Wysg. Hon yw ardal dociau Casnewydd; er bod y rhan fwyaf o Ddoc y Dref wedi ei lenwi bellach, mae Dociau Alexandra yn parhau i fod a dŵr ynddynt. Ceir marchnad wartheg fawr yn Stryd Ruperra.
Roedd y bardd W. H. Davies yn enedigol o Bilgwenlli.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jessica Morden (Llafur).[2][3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Pilgwenlli (pob oed) (7,318) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pilgwenlli) (595) |
|
8.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pilgwenlli) (4628) |
|
63.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Pilgwenlli) (1,313) |
|
44.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau