Pierre de Fermat |
---|
Portread o Fermat gan François de Poilly (17g) |
Ganwyd | 1607 Beaumont-de-Lomagne |
---|
Bu farw | 12 Ionawr 1665 Castres |
---|
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
---|
Addysg | Bagloriaeth yn y Gyfraith |
---|
Alma mater | - hen brifysgol Orléans
|
---|
Galwedigaeth | mathemategydd, cyfreithiwr, barnwr, amlieithydd, cyfreithegwr |
---|
Cyflogwr | - Parliament of Toulouse
|
---|
Adnabyddus am | Fermat's principle, Theorem Olaf Fermat, Fermat's little theorem, Fermat point, Fermat number |
---|
Prif ddylanwad | Diophantus of Alexandria, Gerolamo Cardano, François Viète |
---|
Mathemategydd o Ffrainc oedd Pierre de Fermat (rhwng 31 Hydref a 6 Rhagfyr 1607[1] – 12 Ionawr 1665). Fe'i ganwyd yn Beaumont-de-Lomagne, yn ne-ddwyrain Ffrainc. Roedd yn gyfreithiwr yn Parlement de Toulouse. Cofnododd y rhan fwyaf o'i waith mathemategol mewn llythyrau at ffrindiau, yn aml heb fawr o brawf ffurfiol o'i theoremau. Bu farw yn Castres, de-ddwyrain Ffrainc.
Gwnaeth gyfraniadau pwysig tuag at ddamcaniaeth rhifau ac at greu'r calcwlws gwahaniaethol. Mae'n fwyaf adnabyddus am:
- Egwyddor Fermat: Mae pelydryn golau sy'n teithio rhwng dau bwynt yn cymryd y llwybr y gellir ei drosglwyddo yn yr amser byrraf.
- Theorem Olaf Fermat: Nid oes unrhyw dri chyfanrif positif a, b, ac c yn bodloni'r hafaliad an + bn = cn ar gyfer werth cyfanrif o n yn fwy na 2. Ysgrifennodd Fermat nodyn yn 1637 i ddweud ei fod wedi cael prawf dyfeisgar o'r theorem; fodd bynnag, nid tan 1995 y cyhoeddwyd prawf llwyddiannus gan Andrew Wiles.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) "When Was Pierre de Fermat Born?" Archifwyd 2016-10-11 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Mathematical Association of America ; adalwyd 24 Mehefin 2018. Yn aml, rhoddir ei flwyddyn geni fel 1601, ond mae hyn yn anghywir: Klaus Barne, "How old did Fermat become?", NTM: International Journal for History and Ethics of Natural Sciences, Technology and Medicine (cyfres newydd) 8:4 (2001), 209–228.