Canwr Cymreig sydd fwyaf adnabyddus am chwarae'r prif ran yn sioe gerdd Andrew Lloyd Webber, The Phantom of the Opera, ydy Peter Karrie (ganed 10 Awst 1946). Chwaraeodd y rhan hwn yn Llundain, Toronto, Vancouver, Singapôr, Hong Cong ac ar daith yn y Deyrnas Unedig ym Mradford, a Manceinion. Cafodd ei ddewis fel eu hoff Phantom gan aelodau'r The Phantom of the Opera Appreciation Society, yn 1994 ac yn 1995.
Magwyd Karrie yng Nghymru, lle mae ef fwyaf adnabyddus. Dechreuodd ei yrfa gerddorol fel prif ganwr y grŵp pop, "Peter and the Wolves", cyn mynd ymlaen i serennu mewn nifer o sioeau yn West End Llundain. Mae rhain yn cynnwys Les Misérables (ar dair achlysur gwahanol) a Chess. Mae ef hefyd yn gymrawd o Goleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae'n briod a chanddo chwech o blant.