Rhestir isod enillwyr Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Ffrainc mewn amryw o ddosbarthiadau. Delir y pencampwriaethau rhain yn flynyddol fel rheol.
Hanes
Sefydlwyd y pencampwriaethau ym 1899 a chyflwynwyd pencampwriaeth proffesiynol arwahan ym 1907. Y pencampwriaethau proffesiynol a gyfeirir ato'n gyffredinol â 'pencampwr Ffrainc'. Ni chyflwynwyd pencampwriaethau ar gyfer merched tan 1951. Ers hynnu cyflwynwyd hefyd categorïau ar gyfer reidwyr iau a Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Ffrainc ym 1991.
Enillwyd y pencampwriaeth proffesiynol gyntaf, a'r ail, gan Gustave Garrigou. Rhedwyd y rhifynnau cynharaf dros bellter o 100 km rhwng Versailles a Rambouillet. Cafodd y rhifynnau rhwng 1922 a 1928, yn ogystal â 1931, eu rhedeg ar ffurf treial amser. O 1928, cynhaliwyd ar Gylchffordd rasio ceir Linas-Montlhéry yn départementEssonne, i'r de o Baris. Cymerodd ei ffurf ras ffordd presennol ym 1932[1].
Ni chynhaliwyd y pencampwriaethau ym 1940, ond ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno trodd yr Union vélocipédique de France yn Fédération française de cyclisme a hwy a drefnodd pencampwriaethau Ffrainc yn Montlhéry ar 15 Mehefin1941, wedi i'r meddiannwyr Almaenig greu cytundeb a greodd rhanbarth rydd yn ne Ffrainc. Ym mis Ebrill, cafodd sawl reidiwr o'r rhanbarth a feddiannwyd eu hatal yn y rhanbarth rydd, roeddent ar eu ffordd i gystadlu yn y Flèche du Rhône, a threuliont sawl wythnos yn y carchar fel canlyniad. Anghymellwyd reidwyr o'r parth rhydd rhag gystadlu yn y pencampwriaethau cenedlaethol fel canlyniad. Cystadlwyd gan ond 29 reidiwr ac enillwyd gan Albert Goutal. Felly, trefnwyd pencampwriaeth ychwanegol ar 29 Mehefin ar gyfer reidwyr y rhanbarth rydd, yn Alès, ac enillwyd gan René Vietto[2] Cynhaliwyd encampwriaethau'r blynyddoedd canlynol yn Lyon a Saint-Gaudens. O 1944 hyd 1946, rhoddwyd y teitl pencampwr Ffrainc ar sail system bwyntiau a benderfynnwyd dros sawl ras, rhywbeth tebyg i'r Coupe de France. Dychwelodd y ras i gylchffordd Montlhéry rhwng 1947 a 1959, heblaw 1952 (Reims), 1953 (Saint-Étienne) a 1955 (Châteaulin). Dychwelodd y pencampwriaethau i Montlhéry ar gyfer 1997.[1].
Crys
Mae pencampwr Ffrainc yn ennill crys tri lliw, glas, coch a gwyn, sef y maillot tricolore, a chaiff ei gwisgo mewn rasys ffordd hyd y pencampwriaethau canlynol. Mae'r crys hwn wedi cael ei gwisgo ers sefydlu'r bencampwriaeth.[3]
Ym 1973, gwaharddwyd rhoi logos ar y maillot tricolore, wedi i'r arfer hyn ddatblygu ers 1965. Ail-ganiatawyd hyn ym 1991, gyda'r pencampwr yn gwisgo'r tricolore wedi ei gyfuno gyda chynllun crys noddwyr eu tîm seiclo.
Caiff cyn-bencampwyr Ffrainc hefyd ddynodi eu statws ar eu crysau. Gwisgodd Georges Speicher a Raymond Louviot grysau gyda quarts de manche tricolores, chwarter eu llewys mewn tri lliw, yn y 1930au hwyr. Daeth hyn yn arfer cyffredin yn ystod yr 1980au[1].
O 1923 hyd 1951, cyfeirwyd at y ras hon fel y Premier Pas Dunlop. Ym 1952, trefnwyd y pencampwriaethau'n swyddogol gan y Fédération française de cyclisme fel y Championnat de France sur route des débutants puis des juniors. Rhwng 1982 a 1990, cystadlwyd y bencampwriaeth ar ffurf treial amser yn hytrach na ras ffordd.