Mae Reims yn ddinas hynafol ym Marne i'r dwyrain o Paris yng ngogledd Ffrainc. Mae'n ffinio gyda Bétheny, Bezannes, Cernay-lès-Reims, Champfleury, Cormontreuil, Courcy, Puisieulx, Saint-Brice-Courcelles, Saint-Léonard, Saint-Thierry, Taissy, Tinqueux, Trois-Puits, Villers-aux-Nœuds, Witry-lès-Reims ac mae ganddi boblogaeth o tua 374,681 (2017)[1].
Reims oedd prif ddinas y dalaith Rufeinig Gallia Belgica. Sefydlwyd esgobaeth yno yn O.C. 200. Bedyddiwyd y brenin Clovis yno yn 496 gan sefydlu traddodiad brenhinol. Rhwng 1548 a 1793 roedd hen brifysgol Reims yn ganolfan dysg. Dioddefodd yr hen ddinas gryn ddifrod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond goroesodd yr eglwys gadeirol, sy'n dyddio o'r 13g a sawl adeilad hanesyddol arall. Yn ninas Reims arwyddodd y Wehrmacht ei ildiad ar y 7 Mai, 1945.