Paul Simon |
---|
|
Ffugenw | Jerry Landis, True Taylor, Paul Kane |
---|
Ganwyd | Paul Frederick Simon 13 Hydref 1941 Newark |
---|
Label recordio | Warner Bros. Records, Columbia Records |
---|
Dinasyddiaeth | UDA |
---|
Alma mater | - Coleg y Frenhines, Efrog Newydd
- Ysgol y Gyfraith, Brooklyn
- Forest Hills High School
|
---|
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr, actor, gitarydd, actor ffilm, actor teledu, artist recordio |
---|
Cyflogwr | |
---|
Adnabyddus am | There Goes Rhymin' Simon, Still Crazy After All These Years, Graceland |
---|
Arddull | cerddoriaeth roc, roc gwerin, roc meddal, cerddoriaeth y byd |
---|
Math o lais | tenor |
---|
Taldra | 1.61 metr |
---|
Mam | Belle Simon |
---|
Priod | Carrie Fisher, Peggy Harper, Edie Brickell |
---|
Partner | Kathleen Mary Chitty, Shelley Duvall |
---|
Plant | Harper Simon, Adrian Edward Simon, Lulu Simon, Gabriel Elijah Simon |
---|
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Polar Music, Gwobr Emmy 'Primetime', MusiCares Person of the Year, Rock and Roll Hall of Fame, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Gershwin, gwobr Johnny Mercer, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, CASBY Award, Ellis Island Medal of Honor |
---|
Gwefan | https://www.paulsimon.com/ |
---|
llofnod |
---|
|
Cerddor, cyfansoddwr ac actor o Unol Daleithiau'r America yw Paul Frederic Simon (ganwyd 13 Hydref 1941). Gellir olrhain enwogrwydd a llwyddiant Simon i'w gyfnod fel un rhan o'r ddeuawd Simon & Garfunkel, a ffurfiodd yn 1964 gydag Art Garfunkel. Ef oedd cyfansoddwr nifer helaeth o ganeuon y ddeuawd, gyda thair ohonynt yn cyrraedd brig siartiau senglau'r UDA, The Sound of Silence, Mrs Robinson, a Bridge Over Troubled Water.
Er i'r ddeuawd ddod i ben ym 1970, parhaodd Simon fel artist unigol, gan dderbyn clod a llwyddiant pellach.
Bywgraffiad
Bywyd Cynnar
Ganwyd Simon ar y 13eg o Hydref, 1941, yn Newark, New Jersey. Roedd ei rieni, Louis a Belle, o dras Iddewig a Hwngaraidd. Ym 1945, ymfudodd i ardal Flushing, Queens, yn ninas Efrog Newydd. Dyma lle y bu iddo gyfarfod Art Garfunkel, yn 11 oed. Ar ôl perfformio gyda'i gilydd mewn cynhyrchiad o Alice in Wonderland yn yr ysgol, bu i'r ddau ddechrau canu â'i gilydd yn achlysurol mewn dawnsfeydd a digwyddiadau a gynhaliwyd gan yr ysgol. Eu harwyr oedd yr Everly Brothers, a gellir olrhain tarddiad sain eu harmonïau clos, a ddaeth i nodweddu eu cerddoriaeth yn ddiweddarach, i'r dylanwad hwn.
Yn 1957, pan oedd y ddau yn eu harddegau, rhyddhaodd Simon a Garfunkel y gân Hey Schoolgirl ar eu label, Big Records. Ar y pryd, roedd y ddeuawd yn defnyddio'r enw Tom & Jerry.
Graddiodd Simon o goleg Queens, lle y bu'n astudio Saesneg, ac er iddo fwriadu parhau ei astudiaethau drwy fynychu Ysgol Cyfraith Brooklyn am gyfnod byr, gadawodd y coleg er mwyn parhau â'i yrfa fel cerddor.
Simon & Garfunkel
Rhwng 1957 a 1964, cyfansoddodd, recordiodd a rhyddhaodd Simon dros 30 o ganeuon, gyda rhai ohonynt yn cael eu defnyddio gan Tom & Jerry. Fodd bynnag, ym 1964, bu i'r ddau arwyddo i Columbia Records, ac awgrymodd y dylai'r ddeuawd ddefnyddio eu henwau teuluol gwreiddiol, gan alw'u hunain yn 'Simon & Garfunkel'.
Rhyddhaodd y ddeuawd eu LP cyntaf, Wednesday Morning, 3 A.M., ar 19 Hydref, 1964, ond ni lwyddodd yr albwm yn fasnachol yn syth. O ganlyniad i hynny, symudodd Simon i Essex, Lloegr, er mwyn ceisio parhau â gyrfa unigol. Yno cyfarfu Katherine 'Kathy' Chitty, a oedd yng gweithio yng nghlwb gwerin Railway Inn yn Brentford. Caiff Kathy ei henwi mewn nifer o ganeuon gan Simon, yn cynnwys Kathy's Song, Homeward Bound, America, a The Late Great Johnny Ace. Rhyddhaodd Simon yr LP The Paul Simon Songbook, a oedd ar gael ym Mhrydain yn unig.
Yn ôl yn yr UDA, roedd poblogrwydd un o ganeuon oddi ar Wednesday Morning, The Sound of Silence, yn cynyddu ymysg sianeli radio lleol. Achosodd hynny i'w cynhyrchydd, Tom Wilson, osod offerynniaeth trymach ar y gân, gan ddefnyddio gitâr drydan, gitâr fâs a drymiau. Rhyddhawyd y gân fel sengl yn fuan wedi hynny, a bu iddi gyrraedd brig siartiau sengl y wlad.
Yn sgîl eu llwyddiant, penderfynodd y ddeuawd ail ffurfio, gan ryddhau pedair albwm arall - Sounds of Silence; Parsley, Sage, Rosemary and Thyme; Bookends; a Bridge over Troubled Water. Roedd y ddeuawd hefyd yn gyfrifol am drac sain ffilm The Graduate (1967), a oedd yn cynnwys Dustin Hoffman ac Anne Bancroft.
Rhyddhaodd y ddeuawd eu halbwm olaf, Bridge Over Troubled Water, ym 1970, ac ni ryddhaodd y ddau gasgliad sylweddol o ganeuon â'i gilydd wedi hynny.
Er hynny, ymddangosodd Garfunkel ar ambell gân a ryddhawyd gan Simon hefyd, er enghraifft, 'My Little Town', ar yr albwm Still Crazy After All These Years ym 1975. Bu iddynt ailffurfio ym 1981 ar gyfer cyngerdd enwog yn Central Park, Efrog Newydd, ac yn 2003, ar gyfer eu taith, 'Old Friends'.
Gyrfa Unigol
Ar ôl i Simon & Garfunkel wahanu, dechreuodd Simon ar ei yrfa unigol yn syth. Rhyddhaodd ei ail albwm, y cyntaf ers The Paul Simon Songbook (1965), ym mis Ionawr 1972, dan y teitl Paul Simon. Rhyddhawyd dwy sengl oddi ar yr albwm hwnnw, 'Mother and Child Reunion', a 'Me and Julio Down By The Schoolyard'. Er i'r albwm hwn gael ei glodfori am amrywiaeth ei genres (lle y bu i Simon arbrofi ag arddulliau 'byd' fel reggae am y tro cyntaf), aeth Simon yn ôl i'w wreiddiau fel canwr gwerin-pop ar gyfer yr albwm nesaf, sef There Goes Rhymin' Simon, a ryddhawyd ym 1973.
Roedd disgwyliadau mawr o'r albwm Still Crazy After All These Years (1975), a ryddhawyd bum mlynedd ers i Simon gyhoeddi ei fod yn artist unigol. Bu iddo gydweithio â Phil Ramone, a gynhyrchodd yr albwm. Roedd 'Gone At Last', deuawd â naws gospel â'r gantores Pheobe Snow, a 'My Little Town', trac ar y cyd â Garfunkel, yn rhan o'r casgliad hwn. Still Crazy oedd albwm unigol cyntaf Simon i gyrraedd brig y siartiau, a bu iddo ennill gwobr Grammy fel albwm gorau'r flwyddyn honno.
Yn dilyn cyfnod distaw ar ddiwedd y saithdegau, a dwy albwm gymharol aflwyddiannus, One-Trick Pony (1980), a Hearts and Bones (1983) ar ddechrau'r wythdegau, roedd rhai, yn cynnwys Simon ei hun, yn pryderu am ddiffyg ysbrydoliaeth y cerddor i ysgrifennu caneuon. Ar ôl clywed cerddoriaeth y Boyoyo Boys, o Dde Affrica, penderfynodd arbrofi â dylanwadau Affricanaidd. Arweiniodd hynny iddo ymweld â'r wlad er mwyn parhau â phrosiect newydd, a ddaeth i gael ei adnabod fel Graceland. Yn ei gyfnod yno, bu iddo gydweithio â nifer o artistiaid o'r wlad, a dyma pryd y bu iddo gydweithio â Ladysmith Black Mambazo am y tro cyntaf.
Er i Warner Bros. oedi ychydig wrth ystyried a oedd modd rhyddhau albwm mor ectlectig i farchnad y prif lif, rhyddhawyd Graceland ym Mis Awst, 1986, a bu iddo ddod yn albwm mwyaf llwyddiannus y canwr. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân lwyddiannus 'You Can Call Me Al', yn ogystal â ffefrynnau'r sianeli radio hyd heddiw, megis 'The Boy in the Bubble' a 'Diamonds on the Soles of her Shoes'.
Yn y ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Graceland, rhyddhaodd Simon chwe albwm arall, gyda Stranger to Stranger yn cael ei ryddhau yn 2016, pan oedd Simon yn 74 oed.
Bywyd Personol
Priododd Simon ei wraig cyntaf, Peggy Harper, yn 1969 (ysgarodd 1975). Priododd yr actores Carrie Fisher yn 1983 ond ysgarodd yn 1984. Priododd y gantores Edie Brickell yn 1992.
Discograffi
Albymau Unigol
- The Paul Simon Songbook (1965)
- Paul Simon (1972)
- There Goes Rhymin' Simon (1973)
- Still Crazy After All These Years (1975)
- One-Trick Pony (1980)
- Hearts and Bones (1983)
- Graceland (1986)
- The Rhythm of the Saints (1990)
- Songs from The Capeman (1997)
- You're the One (2000)
- Surprise (2006)
- So Beautiful or So What (2011)
- Stranger to Stranger (2016)
- In the Blue Light (2018)
- Seven Psalms (2023)