Pasio'r parsel

Gêm barti yw pasio'r parsel lle mae parsel yn cael ei droslwyddo o un person i'r llall.[1][2][3]

I baratoi ar gyfer y gêm, caiff gwobr (neu “rodd”) ei lapio mewn nifer fawr o haenau o bapur lapio. Fel arfer, mae pob haen o ddyluniad gwahanol fel y gellir eu gwahaniaethu yn hawdd. Gellir gosod gwobrau llai rhwng rhai neu bob haen arall o bapur lapio.

Yn ystod y gêm, caiff cerddoriaeth ei chwarae wrth i'r parsel gael ei basio o un person i'r nesaf fel rheol mewn cylch.[4] Mae pwy bynnag sy'n gafael yn y parsel pan fydd y gerddoriaeth yn cael ei stopio yn tynnu un haen o bapur lapio ac yn hawlio unrhyw wobr a geir o dan yr haen honno. Yna caiff y gerddoriaeth ei hailgychwyn ac mae'r gêm yn parhau nes bod pob haen yn cael ei thynnu a'r brif wobr yn cael ei hawlio.[5]

Mae stopio a ailddechrau'r gerddoriaeth fel arfer yn cael ei wneud gan oedolyn nad yw'n cymryd rhan yn y gêm. Er na ddylent wylio'r gêm er mwyn iddi fod yn deg, yn ymarferol maent yn aml yn gwneud i sicrhau bod pob un yn cael tynnu haen yn ei dro, bod y gwobrau'n cael eu dosbarthu'n dda, ac efallai mai'r plentyn y mae ei parti ar ei gyfer sy'n hawlio'r brif wobr. Ffordd decach o chwarae yw paratoi recordiadau o glipiau byr o gerddoriaeth ymlaen llaw.

Mae amrywiadau ar y gêm yn cynnwys caniatáu i chwaraewyr dynnu cynifer o haenau o bapur â phosibl (yn hytrach nag un yn unig) cyn i'r gerddoriaeth ailddechrau, a chynnwys heriau neu fforffedau ar slipiau papur o dan rai o'r haenau.[6]

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. Pass the Parcel: a Party Game (yn Saesneg). Chronicle Books LLC. 2018-02-27. ISBN 9781452160412.
  2. Team, Walter Foster Jr Creative (2018-02-06). 101 Games to Play Before You Grow Up: Exciting and Fun Games to Play Anywhere (yn Saesneg). Walter Foster Jr. t. 27. ISBN 9781633223370.
  3. "Pass the parcel". Oxford Reference. Cyrchwyd 2018-07-10.
  4. https://twitter.com/YsgolDewiSant/status/944206273872056321
  5. "Pass the Parcel". Activity Village (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-10.
  6. "Pass the Parcel Game Forfeit Ideas". Glow Word Books (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-10.