P. J. O'Rourke

P. J. O'Rourke
P. J. O'Rourke yn 2007.
Ganwyd14 Tachwedd 1947 Edit this on Wikidata
Toledo Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 2022 Edit this on Wikidata
Sharon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, llenor, dychanwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pjorourke.com Edit this on Wikidata

Dychanwr, newyddiadurwr, ac awdur gwleidyddol o'r Unol Daleithiau oedd Patrick Jake O'Rourke (14 Tachwedd 194715 Chwefror 2022).

Yn ystod ei yrfa, bu'n brif olygydd y National Lampoon, prif gylchgrawn hiwmor yr Unol Daleithiau yn y 1970au, ac yn gyfrannwr rheolaidd i Rolling Stone. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer llu o gyhoeddiadau eraill, gan gynnwys The Atlantic Monthly, The American Spectator, a The Weekly Standard. Cyhoeddwyd rhyw ugain o gyfrolau o'i ysgrifau, erthyglau, a chroniclau ar grwydr.

Yn ei ieuenctid bu'n rhan o wrthddiwylliant y 1960au, ac yn fuan trodd at wleidyddiaeth yr adain dde. Pwysleisiai unigolyddiaeth yn ei ysgrifau, a byddai'n cael ei ystyried yn un o ladmeryddion y tueddiad rhyddewyllysiol yn y Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o'r Cato Institute, melin drafod ryddewyllysiol.

Bywyd cynnar ac addysg

Ganed Patrick Jake O'Rourke ar 14 Tachwedd 1947 yn Toledo, Ohio, i deulu o dras Wyddelig a fu'n bleidiol i'r Gweriniaethwyr.[1] Gwerthwr ceir oedd ei dad, Clifford Bronson O'Rourke, a gweinyddwraig mewn ysgol oedd ei fam, Delphine Loy. Derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau, â Saesneg yn brif bwnc, o Brifysgol Miami yn Oxford, Ohio, ym 1969 a gradd meistr mewn Saesneg o Brifysgol Johns Hopkins yn Baltimore, Maryland, ym 1970.[2]

Bu blynyddoedd O'Rourke yn y brifysgol yn cyd-daro ag anterth gwrthddiwylliant y 1960au, protestiadau yn erbyn Rhyfel Fietnam, a mudiad y hipis. Fel myfyriwr fe gafodd ei swyno gan radicaliaeth y cyfnod, a bu'n hoff iawn o ysmygu mariwana. Tra'n astudio yn Johns Hopkins, ymunodd â chylchgrawn cyfrin yn Baltimore o'r enw Harry a oedd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth roc a rôl a gwleidyddiaeth Farcsaidd. Amheuai ei gydfyfyrwyr ef o beidio â llwyr ymroddi i'r adain chwith, ac wedi iddo raddio fe drodd tuag at safbwyntiau ceidwadol, er iddo gadw ei synnwyr digrifwch amharchus a digywilydd. Yn y cyfnod hwn cyfrannodd at "wrth-gyhoeddiadau" eraill, yn eu plith y llyfr comics The Rip Off Review of Western Culture (1972) a'r papur newydd cyfrin New York Ace (1971–72).

Newyddiaduraeth

Wedi iddo adael y brifysgol, ymsefydlodd O'Rourke yn Efrog Newydd ym 1971 gyda'r nod o ennill ei damaid trwy ysgrifennu barddoniaeth a nofelau arbrofol.[3] Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi: y llyfryn pedwarplyg Nancy Adler Poems ym 1970 ac Our Friend the Vowel ym 1975. Gweithiodd i bapur newydd cyfrin arall, The East Village Other (EVO), cyn iddo ymuno â'r National Lampoon, a sefydlwyd ym 1970 ar sail The Harvard Lampoon, cylchgrawn hiwmor myfyrwyr Prifysgol Harvard. Gweithiodd yn olygydd gweithredol a rheolwr golygyddol y Lampoon o 1973 i 1977, a fe'i penodwyd yn brif olygydd o 1978 i 1981.[2][4]

Aeth O'Rourke yn newyddiadurwr ar liwt ei hun ym 1981. Cyfrannai yn rheolaidd at Rolling Stone, un o brif gylchgronau diwylliannol a gwleidyddol yr Unol Daleithiau, yn bennaf fel gohebydd tramor. Ysgrifennodd adroddiadau o sawl rhyfel, gan gynnwys chwyldro'r Sandinistas yn Nicaragwa, Rhyfel Cartref Libanus, ac Intifada Cyntaf Palesteina.

Teledu, ffilm a radio

Cyd-weithiodd O'Rourke gyda Dennis Blair, Rodney Dangerfield, a Michael Endler ar sgript y ffilm gomedi Easy Money (1983).[2]

Yn y 1990au ymddangosodd mewn cyfres o hysbysebion yn y Deyrnas Unedig ar gyfer British Airways.[1]

Bywyd personol

Priododd P. J. O'Rourke ag Amy Lumet, merch y cyfarwyddwr ffilm Sidney Lumet, ym 1990; cawsant ysgariad ym 1993. Priododd â Tina Mallon ym 1995, a chawsant ddwy ferch ac un mab.[1]

Cafodd ddiagnosis o ganser y rectwm yn 2008. Derbyniodd driniaeth drwy radiotherapi a chemotherapi. Bu farw P. J. O'Rourke ar 15 Chwefror 2022 yn ei gartref yn Sharon, New Hampshire, yn 74 oed, o ganser yr ysgyfaint.

Llyfryddiaeth

  • Nancy Adler Poems (Llundain: Writers Forum, 1970).
  • Our Friend the Vowel (Efrog Newydd: Stone House, 1975).
  • Modern Manners: An Etiquette Book for Rude People (Efrog Newydd: Dell, 1983).
  • Republican Party Reptile: Essays and Outrages (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1987).
  • The Bachelor's Home Companion: A Practical Guide to Keeping House like a Pig (Efrog Newydd: Pocket Books, 1987).
  • Holidays in Hell (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1988).
  • Parliament of Whores: A Lone Humorist Attempts to Explain the Entire U.S. Government (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1991).
  • Give War a Chance: Eyewitness Accounts of Mankind's Struggle against Tyranny, Injustice, and Alcohol-free Beer (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1992).
  • Everybody Had His Own Gringo: The CIA and the Contras (Washington, D.C.: Brassey's, 1992).
  • All the Trouble in the World: The Lighter Side of Overpopulation, Famine, Ecological Disaster, Ethnic Hatred, Plague, and Poverty (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1994).
  • Age and Guile Beat Youth, Innocence, and a Bad Haircut: Twenty-five Years of P. J. O'Rourke (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1995).
  • The American Spectator Enemies List: A Vigilant Journalist's Plea for a Renewed Red Scare (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1996).
  • Eat the Rich: A Treatise on Economics (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1998).
  • The CEO of the Sofa (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2001).
  • Peace Kills: America's Fun New Imperialism (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2004).
  • On the Wealth of Nations: Books That Changed the World (Llundain: Allen & Unwin, 2007)
  • Driving Like Crazy (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2009).
  • Don't Vote! It Just Encourages the Bastards (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2010).
  • Holidays in Heck (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2011).
  • The Baby Boom: How It Got That Way And It Wasn't My Fault And I'll Never Do It Again (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2014).
  • Thrown Under the Omnibus: A Reader (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2015).
  • How the Hell Did This Happen? The Election of 2016 (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2017).
  • None of My Business: P. J. Explains Money, Banking, Debt, Equity, Assets, Liabilities, and Why He's Not Rich and Neither Are You (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2018).
  • A Cry from the Far Middle: Dispatches from a Divided Land (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2020).
Golygydd a chyfrannwr
  • The 1964 High School Yearbook Parody (Boston: National Lampoon, 1974). Cyd-olygydd gyda Doug Kenney.
  • Sunday Newspaper Parody (Boston: National Lampoon, 1978). Cyd-olygydd gyda John Hughes.
  • Very Seventies: A Cultural History of the 1970s, from the Pages of Crawdaddy (Efrog Newydd: Simon & Schuster, 1995). Cyd-olygydd gyda Peter Knobler a Greg Mitchell.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "PJ O’Rourke, maverick conservative satirist who rode the wave of Gonzo journalism to skewer the Left and hold the Right to account – obituary", The Daily Telegraph (16 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Chwefror 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "O'Rourke, P. J. 1947–", Contemporary Authors. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Chwefror 2022.
  3. (Saesneg) Eric Longley, "O'Rourke, P. J. (1947—)" yn St. James Encyclopedia of Popular Culture. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Chwefror 2022.
  4. (Saesneg) "O'Rourke, P. J.", Writers Directory 2005. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Chwefror 2022.
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Read other articles:

Koordinat: 48°8′15″N 11°34′32″E / 48.13750°N 11.57556°E / 48.13750; 11.57556 Balaikota baru dan Marienplatz (2006). Tampak depan pintu masuk. Neues Rathaus (Balai Kota Baru) adalah gedung balaikota yang terletak di bagian utara Marienplatz di Munich, Bavaria, Jerman. Gedung ini merupakan kantor pemerintahan kota beserta dewan kota dan berbagai urusan administrasinya. Gedung lamanya Balaikota lama, tidak digunakan lagi sejak tahun 1874. Pranala luar Wikimedi...

 

Artikel ini tidak memiliki referensi atau sumber tepercaya sehingga isinya tidak bisa dipastikan. Tolong bantu perbaiki artikel ini dengan menambahkan referensi yang layak. Tulisan tanpa sumber dapat dipertanyakan dan dihapus sewaktu-waktu.Cari sumber: Masjid Amru bin Ash – berita · surat kabar · buku · cendekiawan · JSTOR Masjid Amru bin 'Ash Masjid Amru bin 'Ash merupakan masjid pertama yang dibangun di Mesir dan juga di benua Afrika. Masjid ini diba...

 

Cica-kopi Pomatorhinus Taiwan scimitar babbler (Pomatorhinus musicus)TaksonomiKerajaanAnimaliaFilumChordataKelasAvesOrdoPasseriformesFamiliSylviidaeGenusPomatorhinus Horsf., 1821 SpeciesSee textlbs Pomatorhinus adalah genus burung cica-kopi, burung hutan dengan paruh panjang melengkung ke bawah. Ini adalah burung-burung di Asia tropis, dengan jumlah spesies terbanyak terdapat di perbukitan Himalaya . Ini adalah burung darat berukuran sedang dengan ekor terkulai dan bulu lembut. Mereka biasany...

SarnaBendera SarnaSimbol Sarna yang digunakan oleh beberapa pemelukTotal populasisekitar 7.841.870 - 8.541.870Wilayah dengan populasi signifikan IndiaJharkhand4.223.500Bihar1.349.460Chhattisgarh768.910Odisha478.317Assam10.000 Sarna atau Sarnaisme adalah agama atau kepercayaan kesukuan India yang berasal dari kawasan hutan Dataran Tinggi Chota Nagpur di Jharkhand, Bihar, Assam, dan Chhattisgarh. Mayoritas pemeluknya merupakan suku-suku Austroasia seperti Kharia, Baiga, Ho, Kurukh, Munda, ...

 

Let's Eat 3Poster promosiNama alternatifLet's Eat: BeginsHangul식샤를 합시다 3 GenrePotongan kehidupanRomansaPembuatLee Myung-hanDitulis olehIm Soo-miSutradaraChoi Gyu-sikPemeranYoon Doo-joonBaek Jin-heeNegara asalKorea SelatanBahasa asliKoreaProduksiProduser eksekutifPark Jae-samRumah produksiCelltrion EntertainmentDistributorCJ E&MRilis asliJaringantvNFormat gambar1080i (HDTV)Format audioDolby DigitalRilis16 Juli (2018-07-16) –28 Desember 2018 (2018-12-28) Let's ...

 

ObsessedTheatrical posterSutradaraKim Dae-wooProduserPark Dae-hee Kim Dae-wooDitulis olehKim Dae-woo Oh Tae-kyungPemeranSong Seung-heon Lim Ji-yeonPenata musikLee Jae-jinSinematograferByun Bong-seonPenyuntingKim Sang-bum Kim Jae-bumDistributorNext Entertainment WorldTanggal rilis 14 Mei 2014 (2014-05-14) Durasi132 minutesNegaraSouth KoreaBahasaKorean ObsessedHangul인간중독 Hanja人間中毒 Alih AksaraIn-gan-jung-dok Obsessed (Hangul: 인간중독; RR: In-...

Public university in Cincinnati, Ohio, U.S. University of CincinnatiFormer names List Cincinnati College (1819–1825; 1835–1870)Medical College of Ohio (1819–1896)Cincinnati Law School (1833–1893)Miami Medical College (1852–1909)Cincinnati Conservatory of Music (1867–1955)College of Music of Cincinnati (1878–1955)Cincinnati College-Conservatory of Music (1955–1962) MottoJuncta Juvant (Latin)Alta Petit (Latin)Motto in EnglishStrength in UnitySeek the HighestTypePublic resea...

 

Chemical compound EstrobinClinical dataATC codeNoneIdentifiers IUPAC name 1,1'-(2-Bromo-2-phenyl-1,1-ethenediyl)bis(4-ethoxybenzene) CAS Number60883-74-1 YPubChem CID109030ChemSpider98048UNIIMM7V5ZUU9BCompTox Dashboard (EPA)DTXSID30209726 Chemical and physical dataFormulaC24H23BrO2Molar mass423.350 g·mol−1 Estrobin, also known as α,α-di(p-ethoxyphenyl)-β-phenylbromoethylene and commonly abbreviated as DBE, is a synthetic, nonsteroidal estrogen of the triphenylethylene group th...

 

Volume dari United States Reports di rak di perpustakaan hukum. United States Reports adalah catatan resmi (laporan hukum) dari putusan, perintah, tabel kasus (daftar setiap kasus yang diputuskan, dalam urutan abjad baik oleh nama pemohon (pihak yang kalah di pengadilan yang lebih rendah) dan dengan nama responden (pihak yang berlaku di bawah)), dan proses lain dari Mahkamah Agung Amerika Serikat. United States Reports, setelah dicetak dan terikat, adalah versi akhir dari pendapat pengadilan ...

Association football club in Ireland This article is about the men's football club. For the women's football club, see Wexford Youths W.F.C. Football clubWexfordFull nameWexford Football ClubNickname(s)YouthsFounded2007GroundFerrycarrig ParkCapacity2,500 (609 temp seats)ManagerJames KeddyLeagueLeague of Ireland First Division2023League of Ireland First Division, 4th of 10WebsiteClub website Home colours Away colours Current season Wexford Football Club is an Irish association football club ba...

 

استصلاح الأراضي البحريةمعلومات عامةصنف فرعي من technical activity (en) المنتجات reclaimed land (en) تعديل - تعديل مصدري - تعديل ويكي بيانات استصلاح شواطئ رملية في منطقة سان ستيفانو[؟] - حي شرق الإسكندرية. استصلاح الأراضي البحرية هي عملية إنشاء أراضٍ جديدة في البحر. استصلاح الأراضي حول الع�...

 

وليام فاولر (بالإنجليزية: William Alfred Fowler)‏    معلومات شخصية الميلاد 9 أغسطس 1911 [1][2][3][4][5][6]  بيتسبرغ  الوفاة 14 مارس 1995 (83 سنة) [1][2][3][4][5][6]  باسادينا  مواطنة الولايات المتحدة  عضو في الأكاديمية الأمريكية للفنون و�...

Dipartimenti di Haiti I dipartimenti di Haiti (in francese: départements) costituiscono la suddivisione territoriale di primo livello del Paese e sono pari a 10. Ciascuno di essi si suddivide a sua volta in arrondissement, complessivamente pari ad 81. Indice 1 Lista 2 Voci correlate 3 Altri progetti 4 Collegamenti esterni Lista Localizzazione Dipartimento Capoluogo Popolazione(2003) Superficie(km²) Artibonite Les Gonaïves 1 070 397 4 887 Centro Hinche 565 043 3 487...

 

Female film playback singer award This article needs additional citations for verification. Please help improve this article by adding citations to reliable sources. Unsourced material may be challenged and removed.Find sources: Bangladesh National Film Award for Best Female Playback Singer – news · newspapers · books · scholar · JSTOR (December 2016) (Learn how and when to remove this message) Bangladesh National Film Awards for Best Female Playback S...

 

Indian mathematician (1887–1920) Ramanujan redirects here. For other uses, see Ramanujan (disambiguation). In this Indian name, the name Srinivasa is a patronymic, and the person should be referred to by the given name, Ramanujan. Srinivasa RamanujanFRS1913 passport photographBorn(1887-12-22)22 December 1887Erode, Mysore State, British India (now in Tamil Nadu, India)Died26 April 1920(1920-04-26) (aged 32)Kumbakonam, Tanjore District, Madras Presidency, British India (now Thanjavur dis...

Fatamorgana di Sahara utara di selatan Touzer Fatamorgana (bahasa Inggris: mirage) adalah sebuah fenomena bayangan udara di mana ilusi optik yang biasanya terjadi di tanah lapang yang luas seperti padang pasir atau padang es. Peristiwa Fatamorgana terjadi akibat oleh pembiasan cahaya melalui kepadatan yang berbeda, sehingga bisa membuat sesuatu yang tidak ada menjadi seolah ada.[1] Fenomena ini biasa dijumpai di tempat panas dan Gunung Brocken di Jerman. Fatamorgana Seringkali di ...

 

Chemical compound BMS-906024Identifiers IUPAC name (2R,3S)-N-[(3S)-1-Methyl-2-oxo-5-phenyl-2,3-dihydro-1H-1,4-benzodiazepin-3-yl]-2,3-bis(3,3,3-trifluoropropyl)succinamide CAS Number1401066-79-2PubChem CID66550890PubChem SID152143555ChemSpider28536138UNIIDRL23N424RCompTox Dashboard (EPA)DTXSID30161234 Chemical and physical dataFormulaC26H26F6N4O3Molar mass556.509 g·mol−13D model (JSmol)Interactive image SMILES CN1c2ccccc2C(=N[C@@H](C1=O)NC(=O)[C@H](CCC(F)(F)F)[C@H](CCC(F)(F)F)C(=...

 

[تعديل]  القرن 17 القرن السابع عشر هو الفترة الزمنية الممتدة بين عام 1601 وعام 1700 من التقويم الغريغوري القرن السابع عشرمن عام 1601 إلى عام 1700 القرن 17 التالي بوابة القرن 18 [تعديل]  شخصية مختارة الملك تشارلز الأول ولد 19 نوفمبر 1600، وتوفي في 30 يناير 1649. هو ملك إنكلترا، واسكتلندا، ...

2018 Minnesota Attorney General election ← 2014 November 6, 2018 (2018-11-06) 2022 →   Nominee Keith Ellison Doug Wardlow Noah Johnson Party Democratic (DFL) Republican Grassroots—LC Popular vote 1,249,407 1,150,459 145,748 Percentage 49.0% 45.1% 5.7% County results Congressional district results Precinct resultsEllison:      40–50%      50–60%      60–70%  &...

 

Katedral Lama WilmingtonKatedral Basilika Tempat Ziarah Santa MariaBasilica Shrine of Saint MaryLokasiWilmington, North CarolinaNegaraAmerika SerikatDenominasiGereja Katolik RomaSitus webhttps://www.saintmarybasilica.orgSejarahDedikasiMariaTanggal dedikasi28 April 1912ArsitekturStatusbasilika minor, parokiStatus fungsionalAktifArsitekRafael GuastavinoGayaSpanish BaroqueSelesai1912SpesifikasiJumlah puncak menara2Bahan bangunanbatu bataAdministrasiKeuskupanKeuskupan RaleighKlerusUskupYang Mulia...