aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Llywodraethwr y BBC, beirniad Gwobr Booker, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA)
OBE, Gwobr Anrhydeddus Rhyngwladol Riverton, Nick Clarke Award, The Grand Master, Cyllell Ddiamwnt Cartier, Gwobr Anthony, Grand Prix de Littérature Policière, Medal Bodley
Ganed James yn Rhydychen yn ferch i Sidney James, arolygwr treth, ac addysgwyd yn Ysgol Brydeinig Ludlow a Ysgol Uwchradd i Ferched Caergrawnt.[3] Dechreuodd ysgrifennu yn yr 1950au.[4] Enwyd ei nofel gyntaf, Cover Her Face, yn dilyn hanes Adam Dalgliesh o New Scotland Yard, ar ôl athro yn Ysgol Uwchradd Caergrawnt, a cyhoeddwyd ym 1962.[5] Gosodir nifer o nofelau dirgelwch James ar gefndir biwrocraeth Brydeinig, megis y system gyfiawnder troseddol a'r system iechyd, meysydd yr oedd James wedi gweithio ynddynt ers degawdau, gan gychwyn yn yr 1940au pan aeth i weithio mewn gweinyddiaeth ysbytu er mwyn cefnogi ei gŵr, a oedd yn wael, a'u dau plentyn. Dyflwydd wedi cyhoeddiad Cover Her Face, bu farw gŵr James, a cymerodd swydd fel gwas sifil yn adram cyfiawnder troseddol y Swyddfa Gartref. Gweithiodd James yn gwasanaethu'r llywodraeth hyd ei ymddeoliad ym 1979. Mae'n Anglican ac yn Noddwr Lleyg y Cymdeithas Llyfr Gweddi. Mae ei gwaith o 2001, Death in Holy Orders, yn arddangos dealltwriaeth o strwythr a gweithrediad mewnol yr eglwys.[6] Lleolwyd ei nofelau diweddarach mewn rhyw fath o gymdeithasau caedig o ryw fath, megis tŷ cyhoeddi neu siambr bargyfreithiwr, colege ddiwynyddol, ynys neu glinic preifat. Cyhoeddwyd nofel Adam Dalgliesh, The Private Patient, ym mis Awst 2008 yn y Deyrnas Unedig gan Faber & Faber (Tachwedd 2008 yn yr Unol Daleithiau gan Alfred A. Knopf) a cyhoeddwyd Talking About Detective Fiction yn 2009. Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o draethodau a straeon byrion ar gyfer papurau newydd, cylchgronnau ac antholegau yn ystod ei gyrfa. Nid yw rhain wedi eu cyhoeddi mewn casgliad hyd yn hyn.
Fel golygydd gwestai rhaglen TodayBBC Radio 4 ym mis Rhagfyr 2009, cyfwelodd James Gyfarwyddwr-cyffredin y BBC, Mark Thompson, a rhoddodd yr argraff ei bod yn feirniadol o'i benderfyniadau. Dywedodd cyflwynydd Today, Evan Davis a oedd wedi cael ei argraffu gan James, y dylai fod yn cyflwyno'r rhaglen yn barhaol nid fel gwestai.[7] Yn 2008, sefydlwyd i Neuadd Enwogion Ysgrifennu Trosedd Rhyngwladol yng Ngwobrau cyntaf Trosedd Cyffrous ITV3.[8]