Gwyddonydd o'r Almaen oedd Otto Bayer (4 Tachwedd 1902 – 1 Awst 1982)[1] Roedd yn gemegydd diwydiannol yng nghwmni enwog IG Farben. Ef oedd pennaeth y uned ymchwil a ddarganfyddodd y polyaddition yn 1937 ar gyfer synthesis polywrethannau allan o poly-isocyanate a polyol.[2]
Ganwyd Bayer yn Frankfurt. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn Gemeg ym Mhrifysgol Frankfurt-am-Main yn 1924. O 1933 bu'n gweithio mewn amrywiol swyddogaethau rheoli mewn sefydliadau'r IG Farbenindustrie. Doedd dim perthynas thwng Dr Bayer a'r teulu a sefydlodd y Bayer Corp.
Roedd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr cwmni Bayer a hefyd yn is-gadeirydd bwrdd goruchwiliol cwmni Cassella yn yr 1950au.
Polywrethan
Otto Bayer oedd arweinydd yr Uned a ddyfeiriodd polywrethan. Mae polywrethanau bellach yn hollbresennol ym mhob rhan o fywyd beunyddiol er enghraifft, o rhannau o'r car i rhewgell i adeiladwaith tŷ, gwisg gofodwr i gondom.
Wedi datblygu polywrethan, nododd ei gydweithwyr yn goeglyd yn 1941 am y ddyfais newydd , "Polywrethan - ar ei orau, defnydd at greu ffug gaws Emmental".[3]
Gwobrau
- 1960 - Werner-von-Siemens Ring (Modrwy Werner von Siemens) sef un o worbau uchaf yn yr Almaen am waith yn y gwyddorau naturiol, am ei waith ym maes synthesis polymerau technegol ac ar gyfer datblygu deunyddiau technegol newydd (polyurethaniaid). Derbyniodd y wobr ynghyd â Walter Reppe a Karl Ziegler.
- 1960 - Carl-Duisberg Plakette tystygrif Carl Duisberg a ddyfernir gan y Gesellschaft Deutscher Chemiker, Cymdeithas Cemegwyr yr Almaen.
- 1975 - Charles Goodyear Medal[4] Dyfernir y fedal yma gan yr American Chemical Society, Rubber Division. Sefydlwyd hi yn 1941 ac fe'i henwir ar ôl Charles Goodyear, darganfyddydd vulcanization.
Gwobr Otto Bayer
Yn ei ewyllys, cymunroddodd Bayer i sefydlu'r Otto-Bayer-Preis, sydd ers 1984 yn dyfarnu gwobr i wyddonwyr gwledydd Almaeneg eu hiaith, am gyflawniadau ymchwil eithriadol ym meysydd cemeg a biocemeg. Dyfarnwyd y wobr yn flynyddol, ond, ers 1996 bob yn ail flwyddyn. Yn 2018 roedd y wobr gwerth €75,000.
Dolenni allanol
Cyfeiriadau