Roedd Syr Arthur Osmond Williams (17 Mawrth 1849 – 28 Ionawr 1927) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Sir Feirionnydd.
Cefndir
Fe'i ganed yn Llanfihangel-y-traethau, yn fab i David Williams, AS Meirion 1868-1869, ac Anne Louisa Loveday Williams. Fe'i addysgwyd yn ysgol bonedd Eton. Ymbriododd â Evelyn Greaves, merch John Whitehead Greaves ac Ellen Stedman, ar 3 Awst 1880 bu iddynt chwe phlentyn.
Gwleidyddiaeth
Fe'i etholwyd yn AS Meirionnydd ym 1900 gan dal y sedd hyd 1910.