Roedd George Ralph Charles Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech, KCB TD (21 Ionawr 1855 – 8 Mai 1938), yn filwr Prydeinig ac yn Aelod Seneddol Ceidwadol.
Cefndir
Roedd yr Arglwydd Harlech yn fab i William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech, a'r Arglwyddes Charlotte Emily Seymour.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton a'r Coleg Milwrol Brenhinol yn Sandhurst.
Priododd yr Arglwyddes Margaret Ethel Gordon, merch Charles Gordon, 10fed Ardalydd Huntly, ym 1881.
Gyrfa
Gwasanaethodd yn y fyddin reolaidd fel Is-gapten yn y Gwarchodlu'r Coldstream o 1875 i 1883. Yn ddiweddarach gwasanaethodd yn y Shropshire Yeomanry, gan wasanaethu fel ei phennaeth milwrol gyda gradd Is-gyrnol o 1902 i 1907, ac fel Cyrnol Anrhydeddus o 1908. Roedd yn bennaeth ar y Gwarchodlu Cymreig cartref ym 1915 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[1]. Fe fu yn Gadeirydd Cymdeithas Fyddin Diriogaethol Swydd Amwythig.
Gyrfa wleidyddol
Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel yr aelod Ceidwadol dros etholaeth Croesoswallt mewn isetholiad ym mis Mai 1901,[2] gan dal y sedd hyd 1904 pan olynodd ei dad fel y trydydd Barwn Harlech a gorfod rhoi'r gorau i'w sedd yn Nhŷ'r Cyffredin wrth ddod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.[3]
Gyrfa Gyhoeddus
Roedd yn Ynad Heddwch ar gyfer Swydd Leitrim a Swydd Amwythig ac yn Uchel Siryf Leitrim am y flwyddyn 1885. Fe fu hefyd yn gwasanaethu fel Arglwydd Raglaw Leitrim o 1904 i 1922 ac fel Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd o 1927 i 1938. Roedd yn Gwnstabl Castell Harlech o 1927 hyd ei farwolaeth. Bu'n yn Farchog o Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, a dyfarnwyd iddo'r Tlws Tiriogaethol ym 1910 ac yna fe'i urddwyd yn Farchog Urdd y Baddon. O 1926 i 1938 bu'n gwasanaethu fel Uchel Feistr Taleithiol Seiri Rhyddion Swydd yr Amwythig.
Marwolaeth
Bu farw'r Arglwydd Harlech ym mis Mai 1938 yn 83 oed, a dilynwyd ef yn y farwniaeth gan ei fab William. Bu farw Arglwyddes Harlech ym 1950. Mae'r cwpl wedi eu claddu ym mynwent plwyf Selattyn ger Croesoswallt.
Cyfeiriadau
- ↑ Apwyntiad Arglwydd Harlech yn y Llan, 2 Gorffennaf 1915 [1] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ The Oswestry Vacancy yn Cheshire Observer, 18 Mai 1901 [2] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Marwolaeth Arglwydd Harlech yn Gwalia, 28 Mehefin 1904 [3] adalwyd 9 Chwefror 2015