Ysgrifennwyd y geiriau gan Eduardo Pondal fel rhan o’i gerdd Queixumes dos pinos (Galarnad y Pinwydd) a’r alaw gan Pascual Veiga. Y ddau yn Cuba ble roedd llawr o bobl Galisiaidd wedi mudo. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn 1907 yn Havana .[1]
Yn 1977 cafodd Os Pinos ei gydnabod gan awdurdodau Sbaen fel anthem swyddogol Galisia wedi marwolaeth yr unben ffasgiadFrancisco Franco a oedd wedi rheoli'r wlad am 36 o flynyddoedd.[2]
Yn wahanol i lawr o anthemau cenedlaethol, mae’r holl benillion yn cael eu canu, nid dim ond y pennill cyntaf a’r cytgan fel anthem Cymru.
Mae’r pennill cyntaf yn yn hiraethau am arfordir, coed a thir glas y wlad. Ond mae penillion canlynol yn cyfeirio at “chwerwder” a “sarhad”. Trwy hanes mae pobl Galicia wedi dioddef tlodi enbyd ac wedi gorfod gadael eu gwlad am waith. Mae pobl Galicia a’i hiaith hefyd wedi’u hisraddoli gan awdurdodau Sbaen trwy’r ganrifoedd. Mae’r anthem yn datgan bod dim ond pobl “ffôl, gwyllt a'r pengaled, gwirion a thywyll, ddim yn ein deall ni”
Mae’r llinellau olaf yr anthem yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Breogán’ ac yn galw am safiad er mwyn gwell ddyfodol. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan) yn gymeriad o fytholeg Geltaidd. Mae’r llyfr canoloesol GwyddelegLebor Gabála Érenn[3] (Llyfr llafar Iwerddon) yn cyfeirio at Breogán yn yn teithio i Galisia a sefydlu tref Brigantia (dinas A Coruña heddiw).