Yn yr Iliad, mae'n un o arweinwyr y Groegiaid sy'n gwarchae ar ddinas Caerdroea dan arweiniad Agamemnon. Mae'n enwog am ei gyfrwystra, ac ef sy'n meddwl am ystryw Ceffyl Pren Caerdroea, sy'n arwain at gwymp y ddinas.
Ef yw arwr yr Odyseia, lle ceir hanes y daith adref i Ithaca wedi i'r Groegiaid goncro Caerdroea. Mae'r daith adref o Gaerdroes yn cymryd deng mlynedd, ac mae Odysews yn wynebu llawer o beryglon ar y ffordd. Caiff ei achub rhagddynt yn rhannol trwy gymorth y dduwies Athena, ond i raddau helaeth trwy ei gyfrwystra ef ei hun. Er enghraifft, pan mae'n cael ei ddal gan y SeiclopsPolyphemus, mae'n dweud wrtho mai ei enw yw "Neb". Mae wedyn yn llwyddo i ddallu Polyphemus; a phan mae yntau'n galw am gymorth daw'r Seiclopsiaid eraill i weld beth sy'n digwydd. Pan maent yn holi Polyphemus pwy sy'n ei boeni, mae'n ateb "Neb". Mae Polyphemus yn fab i dduw'r môr, Poseidon, sy'n troi'n elyn i Odysews.
Mae'n treulio saith mlynedd yn garcharor y nymff Calypso, nes i Athena ei pherswadio i'w ollwng yn rhydd. Erbyn iddo gyrraedd adref i Ithaca, mae wedi bod oddi cartref am ugain mlynedd i gyd, ac mae ei dŷ yn llawn o ddynion sy'n dymuno priodi ei wraig, Penelope, gan gredu ei bod bellach yn weddw. Mae Odysews yn lladd y rhain i gyd.