Un o'r Ynysoedd Ionaidd oddi ar arfordir gorllewinol Gwlad Groeg yw Ithaca (Groeg: Ιθάκη, Ithaki). Mae ganddi arwynebedd o 118 km² a phoblogaeth o tua 3,000. Saif i'r gogledd-ddwyrain o ynys fwy Ceffalonia. Y brifddinas yw Vathý, sy'n berchen harbwr naturiol gyda'r mwyaf yn y byd.
Cyrhaeddodd Ithaca uchafbwynt ei phwysigrwydd yng nghyfnod y Gwareiddiad Myceneaidd, (1500-1100 CC), pan ddaeth yn brif ganolfan y gwladwriaethau Ceffalonaidd. Mae'n enwog fel cartref yr arwr Odysseus yng ngwaith Homeros. Yn yr Odysseia ceir hanes Odysseus a'i daith adref i Ithaca wedi i'r Groegiaid goncro Caerdroea.