Nyth Cacwn
|
Genre
|
Comedi
|
Gwlad/gwladwriaeth
|
Cymru
|
Iaith/ieithoedd
|
Cymraeg
|
Nifer cyfresi
|
1
|
Nifer penodau
|
6
|
Cynhyrchiad
|
Amser rhedeg
|
30 munud
|
Cwmnïau cynhyrchu
|
Teledu'r Tir Glas
|
Darllediad
|
Sianel wreiddiol
|
S4C
|
Fformat llun
|
576i (4:3 SDTV)
|
Rhediad cyntaf yn
|
13 Mai 1989 – 24 Mehefin 1989
|
Cyfres gomedi sefyllfa Gymraeg wedi'i gosod ar fferm ddychmygol o'r un enw yng ngorllewin Cymru oedd Nyth Cacwn.[1] Ysgrifennwyd y gyfres gan Ifan Gruffydd ac Euros Lewis. Roedd y gyfres yn seiliedig ar hynt a helynt Wiliam (Ifan Gruffydd), gwas newydd a oedd wedi dod i weithio ar fferm gwraig weddw o'r enw Gwyneth (Grett Jenkins) a'i merch Delyth (Gwyneth Hopkins). Henry (Dafydd Aeron) oedd enw cariad Delyth - 'pot blodyn o ddyn' a oedd yn gweithio yn y banc - ac roedd Einon (John Phillips) yn hen was direidus a chyfrwys. Roedd y cymydog Herbert Thomas (William Vaughan) hefyd yn rhan o'r stori, gŵr parchus ag acen ogleddol a chanddo 'un llygad ar y fferm a'r llall ar Mam [Gwyneth]'.
Cafodd chwe phennod cyfres gyntaf Nyth Cacwn eu hysgrifennu yn 1988, a'u darlledu ar S4C yn 1989. Ysgrifennwyd ail gyfres, ond ni chafodd ei chomisiynu. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Teledu'r Tir Glas.
Cast
- Wiliam - Ifan Gruffydd
- Delyth - Gwyneth Hopkins
- Mam (Gwyneth) - Grett Jenkins
- Einon - John Phillips
- Henry - Dafydd Aeron
- Herbert Thomas - William Vaughan
- Gertrude (Mam Henry) - Hannah Roberts
- Twm Post - Phyl Harries
- Anti Popi - Gwenyth Petty
Penodau
- Wiliam
- Trafferth gyda'r Hwrdd
- Godro'r Fuwch
- Y Briodas
- Wyau Clwc
- Y Dyweddïo
Cyfeiriadau