Ers refferendwm yn 1995, Iqaluit ("Frobisher Bay" gynt) ar Ynys Baffin, yw'r brifddinas. Mae cymunedau eraill yn cynnwys canolfannau rhanbarthol Cilfach Rankin a Bae Cambridge. Mae Nunavut yn cynnwys hefyd Ynys Ellesmere i'r gogledd, yn ogystal â rhannau dwyreiniol a denheuol Ynys Victoria yn y gorllewin. Nunavut yw'r mwyaf o daleithiau a thiriogaethau Canada ond gyda'r boblogaeth leiaf o lawer, gyda dim ond 29,474 o bobl mewn ardal o faint Gorllewin Ewrop. Mae'r dwysedd poblogaeth ymhlith yr isaf yn y byd. Mae gan hyd yn oed yr Ynys Las, sydd o'r un faint daearyddol, ddwywaith poblogaeth Nunavut.
Ystyr Nunavut yn yr iaith Inuktitut, yw 'Ein Tir Ni'. Gelwir y trigiolion yn Nunavummiut (unigol: Nunavummiuq). Ynghyd â'r iaith Inuktitut, mae'r Inuinnaqtun, Saesneg a Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol.