Inuit (unigol: Inuk) yw'r enw cyffredinol am grwpiau o bobl brodorol sy'n rhannu nodweddion diwylliant cyffredin ac sy'n byw yn ardaloedd Arctig, Alasga, Yr Ynys Las, Canada (Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin a Nunavut, talaith Quebec a gogledd Labrador). Hyd yn ddiweddar maen nhw wedi rhannu ffordd o fyw hynod agos, sy'n dibynnu'n draddodiadol ar bysgota a hela mamaliaid y môr a'r tir am hanfodion fel bwyd, gwres, golau, dillad, offer a chysgod. Mae'r iaith Inuit yn cael ei dosbarthu gyda'r ieithoedd Esgimo-Aleut. Ceir tua 150,000 o bobl Inuit heddiw. O ran crefydd mae'r mwyafrif yn Gristnogion neu'n Shamaniaid.